Rhagflas: Cymru v Gwlad Belg

  • Cyhoeddwyd
Craig BellamyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Hon fydd gêm olaf Craig Bellamy i Gymru

Mae Cymru'n paratoi i wynebu Gwlad Belg yn gêm olaf y rowndiau rhagbrofol i gyrraedd Cwpan y Byd 2014 yn Brasil.

Er nad yw'n bosib iddynt gyrraedd y nod hwnnw ers tro bellach, bydd y tîm yn awyddus i orffen y grŵp ar nodyn uchel, gan mai'r uchaf yn y grŵp maent yn gorffen, yr hawsaf fydd eu grŵp ar gyfer ymgyrch Ewro 2016.

Ni fydd yr un o'r 15 nad oedd ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Macedonia yn chwarae ym Mrwsel, ond o leiaf nid oes enwau newydd ar y rhestr anafiadau.

Hon fydd gêm ryngwladol olaf Craig Bellamy wrth iddo ennill ei 78ain cap, wedi iddo gyhoeddi ei ymddeoliad yr wythnos ddiwethaf.

Nid yw Marouane Fellaini ar gael i'r Belgiaid ond heblaw am hynny mae eu carfan yn edrych yn gryf.

Gan ystyried y gallai Cymru orffen ar waelod y grŵp petai nhw'n colli a'r Alban a Macedonia yn curo, bydd y rheolwr Chris Coleman yn siŵr o fod yn gobeithio gweld ei dîm yn cipio buddugoliaeth enwog.

Roedd arwyddion positif bod pethau'n gwella er gwaetha'r absenoldebau yn ystod y gêm yn erbyn Macedonia.

Ond gyda Gwlad Belg yn cael eu hystyried fel un o'r timau gorau yn y byd, fe fyddai Cymru'n gwneud yn dda iawn i gael gêm gyfartal.

Mae'r Belgiaid eisoes wedi llwyddo i sicrhau eu lle ar yr awyren i Rio, a'r perygl yw y byddan nhw'n gweld y gêm nos Fawrth fel cyfle i ddangos eu doniau o flaen eu cefnogwyr cyn iddynt baratoi i hel eu pac am Frasil.