Diwrnod Shwmae Sumae
- Cyhoeddwyd

Mae cyfres o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal drwy gydol dydd Mawrth er mwyn ceisio ei gwneud hi'n haws i bobl sy'n siarad Cymraeg wneud hynny.
Hanfod yr ymgyrch yw annog pobl i ddechrau sgyrsiau yn yr hen iaith, ac mae llawer o ddigwyddiadau sydd wedi eu trefnu.
Mae'r rhain yn cynnwys fflachfob yn Sir Benfro, diwrnod i hybu'r iaith yn ysgolion Gwent, cystadleuaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr a gostyngiadau mewn siopau yn Aberystwyth a Chrymych.
Ymysg y rhai sydd wedi datgan eu cefnogaeth i'r ymgyrch mae Cerys Matthews a'r pêl-droediwr ifanc sy'n chwarae dros Gymru, Ben Davies.
Yn ogystal mae datganiad o farn wedi cael ei roi gerbron y Cynulliad yn cefnogi'r diwrnod, sydd wedi ei arwyddo gan 5 aelod.
Mae'r diwrnod yn cael ei drefnu gan Fudiad Dathlu'r Gymraeg a'r nod yw bod pobl yn dechrau sgyrsiau yn Gymraeg, yn hytrach na sylwi ar ddiwedd fod pawb yn deall yr iaith.
Er mwyn codi proffil y digwyddiad mae llu o enwogion wedi bod yn ei hyrwyddo.
Un ohonynt yw'r gantores ddaeth i amlygrwydd drwy'i band byd-enwog Catatonia.
"Rwy'n falch o gefnogi Diwrnod Shwmae Sumae, peidiwch a becso os yw'ch Cymraeg chi bach yn rhwdlyd," meddai Cerys Matthews.
"Does dim ots, give it a go!
"Mae'n grêt gweld pobl yn tynnu at ei gilydd ar Diwrnod Shwmae Sumae i ddathlu'r Gymraeg, ac mae Sir Benfro wedi gwneud ymdrech ffantastig. Fel un sydd a gwreiddiau dwfn yn y sir rwy'n gwybod bod y gymuned yn gweithio'n galed dros y Gymraeg.
"Cefnogwch y diwrnod! Siaradwch yr iaith a gwnewch eich gorau ble bynnag ydych chi!"
Mae Ben Davies, amddiffynwr Abertawe wedi dweud ei bod hi'n "gyfrifoldeb" ar siaradwyr Cymraeg i sicrhau bod yr iaith yn parhau i gael ei siarad.
Dywedodd: "Cymraeg yw iaith fy nghyndeidiau ac mae'n gyfrifoldeb arna i gario ymlaen â'r traddodiad. Mae'n bwysig fy mod i'n siarad Cymraeg gyda'r teulu ac yn dysgu pobl eraill am y Gymraeg. Hefyd mae'n deimlad braf bod nifer o chwaraewyr eraill erbyn hyn yng ngharfan Cymru sy'n siarad Cymraeg."
Mae eraill sy'n ymwneud â'r diwrnod yn cynnwys Bardd Plant Cymru Aneurin Karadog, fydd yn cynnal gweithdai rapio a bîtbocs gyda'i gyfaill Mr Phormula yng Ngholeg Ceredigion yn Aberystwyth ac Aberteifi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2013