Pryder am gynllun nwy methan
- Cyhoeddwyd

Mae grŵp gwrth-ffracio yn cynnal cyfarfod cyhoeddus wedi i gwmni gyhoeddi eu bod am dyllu am nwy methan yn Wrecsam.
Mae GP Energy wedi cyflwyno cais cynllunio i wneud profion ar dir ger fferm yn ardal Borras.
Mae'r cwmni'n mynnu mae profion yn unig sydd ganddyn nhw dan sylw ac nad oes cynllun i ffracio ar y safle.
Ond mae grŵp Gogledd-Ddwyrain Cymru Yn Erbyn Ffracio yn dweud bod nifer o bobl leol yn bryderus.
Fe fydd Cyngor Wrecsam yn ystyried cais GP Energy maes o law.
Mae safle'r profion ddwy filltir o Afon Dyfrdwy, ac mae'r gwrthwynebwyr yn poeni y gallai'r profion arwain at hydraulic fracturing, neu ffracio.
'Dŵr a chemegau'
Mae Luke Ashley yn byw yn lleol ac yn llefarydd dros y grŵp a dywedodd:
"Gallai hyn fod yn ddechrau troi cefn gwlad dwyrain Wrecsam yn dirlun diwydiannol.
"Nod y prawf yw canfod faint o nwy sy'n bresennol yn y gwythiennau glo sy'n ymestyn o'r Parlwr Du yn Sir y fflint yr holl ffordd drwy Wrecsam i Sir Gaer a Sir Amwythig.
"Os fydd chwilio llawn am nwy methan yn dilyn gallai olygu pwmpio miloedd o litrau o ddŵr a chemegau i'r tir er mwyn gorfodi'r nwy allan.
"Rydym yn bryderus iawn y gallai hyn fynd i'r cyflenwad dŵr yfed yn Afon Dyfrdwy gerllaw."
Ychwanegodd y byddai'r grŵp yn lobïo cynghorwyr cyn i'r cynlluniau ddod gerbron pwyllgor cynllunio'r awdurdod, o bosib yn ddiweddarach eleni.
Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal nos Fawrth.
Dim cynlluniau
Fe geisiodd BBC Cymru gysylltu â Dart Energy - perchnogion GP Energy - ond ni wnaeth y cwmni ddychwelyd y galwadau.
Ond dywedodd y cwmni wrth bapur newydd y Leader yn Wrecsam nad oedd ganddo gynlluniau i ffracio yn yr ardal. Dywedodd llefarydd wrth y papur:
"Gall Dart Energy gadarnhau bod y cais cynllunio ar gyfer drilio ar gyfer nwy methan mewn prawf yn unig, ac fe fydd hynny dros dro ac yn cael ei gau ar ddiwedd y prawf.
"Pwrpas y tyllu yw i dynnu sampl o'r wythïen lo er mwyn profi am nwy methan mewn labordy.
"Fel mewn profion tebyg yn y gorffennol does gan Dart Energy ddim cynlluniau i ffracio, ac nid yw'n ceisio caniatâd i ffracio gan yr awdurdod lleol na Chyfoeth Naturiol Cymru."
Dywedodd Cyngor Wrecsam y byddai'r cais yn cael ei ystyried gan y pwyllgor cynllunio ymhen y rhawd.
Straeon perthnasol
- 4 Hydref 2013
- 3 Hydref 2013
- 24 Medi 2013
- 28 Gorffennaf 2013