Stori Pedr a'r Blaidd yn y Gymraeg am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd

Mae stori Pedr a'r Blaidd wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg am y tro cyntaf erioed.
Mewn digwyddiad yn Venue Cymru, Llandudno, ddydd Mercher Hydref 16, bydd Ensemble Cymru yn perfformio'r gerddoriaeth gyda llais yr actor Rhys Ifans yn adrodd y stori.
Plant ysgolion cynradd gogledd Cymru sydd wedi eu gwahodd i'r digwyddiad nad yw ar agor i'r cyhoedd.
Mae'r stori wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg gan y bardd Gwyn Thomas.
Bydd y perfformiad o Pedr a'r Blaidd yn cael ei ffilmio ar y diwrnod a'i ddarlledu ar S4C ar ddydd Nadolig eleni, a bydd Ensemble Cymru wedyn yn mynd â'r sioe ar daith yn y flwyddyn newydd.
Cyfansoddwyd y darn gan Sergei Prokofiev yn 1936 a bwriad y cyfansoddwr oedd creu darn fyddai'n cyflwyno'r gerddorfa i blant.
Meddai Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru: "Mae pawb yn Ensemble Cymru, ensemble preswyl Prifysgol Bangor a Venue Cymru, wedi cyffroi'n fawr i weld y cynhyrchiad yma'n dod at ei gilydd o'r diwedd.
"Mae dod â stori sy'n adnabyddus ar draws y byd a cherddoriaeth ryfeddol Prokofiev i deuluoedd ar draws Cymru ar deledu, cryno ddisg, a pherfformiadau byw yn rhywbeth na allwn i fyth fod wedi'i ddisgwyl wrth ddechrau'r prosiect dair blynedd yn ôl."
Yn ystod yr wythnos cyn y Nadolig darlledir pum rhaglen fer ar S4C fydd yn cyflwyno pob offeryn a chymeriad yn Pedr a'r Blaidd.
Bydd rhaglen tu ôl i'r llen ymlaen ar Rhagfyr 23 fydd yn dangos Trystan Ellis-Morris, cyflwynydd Cyw ar S4C, yn teithio i Rwsia i chwarae ar biano Prokofiev ei hun cyn y darllediad o Pedr a'r Blaidd ar ddiwrnod Nadolig.