Diwedd gyrfa ryngwladol ddisglair
- Cyhoeddwyd

Nos Fawrth bydd Craig Bellamy yn dod â gyrfa ryngwladol ddisglair i ben wrth gynrychioli ei wlad am y tro olaf yn erbyn Gwlad Belg.
Mae disgwyl i Bellamy, 34 oed, ennill cap rhif 78 ym Mrwsel ac mae angen un gôl arall arno i gyrraedd 20 o goliau dros Gymru mewn 15 mlynedd gyda'r tîm cenedlaethol.
Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad o gemau Cymru wythnos yn ôl dywedodd Bellamy: "Rhaid i mi wneud beth sydd orau i'r tîm cenedlaethol, a'r grŵp presennol o chwaraewyr yw'r dyfodol.
"Bydd y gemau rhagbrofol nesaf - rhyw flynedd ohonyn nhw - yn ormod i mi.
"Mae ganddyn nhw gyfle gwell o gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2016."
Un o'r goreuon
Bydd enw Bellamy yn cael ei gofio fel un o oreuon pêl-droed Cymru. Dim ond dau chwaraewr sydd wedi ennill mwy o gapiau, a dim ond pedwar sydd wedi sgorio mwy o goliau dros Gymru.
Mae'r chwaraewr sydd wedi cynrychioli wyth o glybiau yn Uwchgynghrair Lloegr yn ogystal â Celtic yn Uwchgynghrair yr Alban yn ddiolchgar am y cyfle. Ychwanegodd:
"Rwy'n ddiolchgar iawn o waelod calon am bob gêm yr wyf wedi bod yn ddigon ffodus i chwarae dros fy ngwlad.
"Mae'n anrhydedd cael cynrychioli eich gwlad ar unrhyw lefel mewn unrhyw gamp."
Yn gynharach eleni fe welodd wireddu breuddwyd pan sicrhaodd Caerdydd ddyrchafiad i'r Uwchgynghrair gan roi'r cyfle i Bellamy gynrychioli ei ddinas enedigol ar y lefel uchaf.
Enillodd Bellamy ei gap cyntaf fel chwaraewr 18 oed mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Jamaica yn 1998 gan ddod i'r cae fel eilydd ar Barc Ninian.
Daeth ei gôl ryngwladol gyntaf yn erbyn Malta ddeufis yn ddiweddarach.
Ond ei gôl enwocaf i'w wlad mae'n debyg oedd yr un fuddugol yn erbyn Yr Eidal yn Stadiwm y Mileniwm yn Hydref 2002, a dyna'r gêm orau y mae Bellamy'n ei chofio dros ei wlad.
Dadleuol
Mae ei yrfa fel chwaraewr wedi bod yn llawn digwyddiadau dadleuol - fe welodd gerdyn coch wrth chwarae i Gymru yn erbyn Belarus yn 2000 ac mae adroddiadau iddo fygwth ei gyd-chwaraewr yn Lerpwl, John Arne Riise, gyda chlwb golff yn dilyn anghydfod ar y maes ymarfer.
Ond mae'r bobl sy'n ei nabod yn gwybod am ei waith elusennol gan gynnwys creu Sefydliad Craig Bellamy i gynorthwyo plant difreintiedig yn Sierra Leone.
Ers 2007 mae Bellamy wedi ymweld â'r wlad yng ngorllewin Affrica droeon ac wedi cyfrannu £1.2 miliwn o'i arian ei hun er mwyn creu academi bêl-droed yn rhanbarth Kono o'r wlad.
Cyfrannodd hefyd - ochr yn ochr â UNICEF - i gynghrair genedlaethol i'r wlad gan nad oedd digon o arian yn y wlad i gadw'r gystadleuaeth i fynd.
Rheolwr?
Ar y cae Bellamy oedd capten Cymru yn ystod cyfnod John Toshack fel rheolwr o 2007-2011, ac fe gynrychiolodd Team GB yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012 gan sgorio gôl gyntaf Prydain yn y gemau ers 1960.
Cyn hynny daeth yn agos at ymddeol o bêl-droed rhyngwladol wedi marwolaeth ei gyfaill agos Gary Speed - rheolwr Cymru ar y pryd - yn Nhachwedd 2011.
Penderfynodd aros i gefnogi Chris Coleman wrth iddo yntau gymryd yr awenau, ond wrth i Gymru fethu â chyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 2014 cyhoeddodd Bellamy mai dyma'r diwedd.
Ym mis Mehefin datgelodd Bellamy fod ganddo uchelgais i fod yn rheolwr ar Gaerdydd a Chymru yn y dyfodol, ond ychwanegodd y byddai'n beth amser cyn iddo fentro i'r maes arbennig yna.
Ond os fydd nos Fawrth hefyd yn gêm olaf wrth y llyw i Chris Coleman fel rheolwr Cymru, pwy a ŵyr na fydd y dyfalu'n dechrau y daw'r diwrnod yna yn llawer cynt na'r disgwyl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2013