Ymchwilio i farwolaeth dynes 70 oed mewn tân
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad wedi dechrau wedi i ddynes 70 oed farw mewn tân ger Abertawe.
Mae Heddlu'r De a Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin yn ymchwilio i'r tân mewn tŷ ar Heol Bwrw yng Nghasllwchwr ddigwyddodd tua 9.30yh ar Hydref 14.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn trin y farwolaeth fel un anesboniadwy a bod archwiliad fforensig o'r safle wedi dechrau.
Mae teulu'r ddynes wedi cael gwybod a bydd yr heddlu yn cynnal ymchwiliad llawn ar ran y crwner.