Caerdydd: Cefnogwyr yn anfodlon

  • Cyhoeddwyd
Malky mackayFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Malky Mackay gefnogaeth perchennog y clwb ddydd Gwener

Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Caerdydd wedi cyhoeddi datganiad yn dilyn cyfarfod o fwrdd y clwb pêl-droed ddydd Llun sy'n dweud eu bod yn bryderus o hyd.

Mae dyfalu wedi bod am ddyfodol rheolwr y tîm Malky Mackay wedi i bennaeth recriwtio'r clwb Iain Moody gael ei ddiswyddo yr wythnos ddiwethaf.

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd cadeirydd yr ymddiriedolaeth Tim Hartley:

"Er gwaethaf cyfarfod hir o'r bwrdd mae'r cefnogwyr yn parhau'n bryderus am ddyfodol tymor hir ein rheolwr.

"Mae dryswch dros ymadawiad Iain Moody, gydag asiant Malky Mackay nawr yn dweud y bydd yn gwneud datganiad os fydd y clwb yn parhau i aros yn dawel ar y mater.

"Mae'r cefnogwyr yn haeddu eglurhad llawn yn dilyn y cyfarfod bwrdd, gan gynnwys y rhesymu y tu ôl i'r penderfyniad i benodi Alisher Apsalyamov fel pennaeth recriwtio dros dro.

"Mae digwyddiadau'r wythnos ddiwethaf yng Nghaerdydd yn dangos bod angen golwg newydd ar berchnogaeth a rheolaeth clybiau pêl-droed proffesiynol.

"Gallai Caerdydd ddangos y ffordd drwy ymddwyn mewn modd mwy tryloyw a thrwy gyfathrebu gyda chefnogwyr.

"Gallai hefyd ystyried cael cefnogwr/gyfarwyddwr a fyddai'n medru cynrychioli barn y cefnogwyr ar y bwrdd.

"Rydym yn ategu ein cefnogaeth i Malky Mackay sydd wedi bod yn un o'r rheolwyr gorau yn hanes y clwb."

Ddydd Gwener cyhoeddodd y clwb eu bod yn cefnogi Mackay i'r carn er ei bod yn wybyddus nad yw'r rheolwr yn hapus gyda phenderfyniad y perchennog Vincent Tan i ddiswyddo Moody.