Anafu pedwar mewn gwrthdrawiad ger Llambed
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar wedi cael eu hanafu mewn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin, un ohonyn nhw'n ddifrifol.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Bentrebach ger Llambed ychydig wedi 8:30 fore Mawrth.
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans fod un person gydag anafiadau niferus wedi ei drosglwyddo i Ysbyty Treforys yn Abertawe.
Fe gafodd tri arall gyda mân anafiadau eu cludo i Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin.
Does dim mwy o fanylion am yr anafiadau.