Mesur yn erbyn pori anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd

Mae mesur i daclo pori anghyfreithlon ceffylau wedi cael ei gyhoeddi, mesur fyddai'n caniatáu i gynghorau ddifa ceffylau fel cam olaf.
Dywedodd gweinidogion y gallai awdurdodau hefyd gorlannu ceffylau sydd ar dir heb ganiatâd.
Eu bwriad yw cyflymu taith y mesur drwy'r Senedd fel y gall awdurdodau lleol gael y pwerau cyn gynted â phosib.
Y nod, meddai gweinidogion, yw caniatáu ymyrraeth fuan er mwyn taclo'r broblem.
Ym mis Gorffennaf fe garcharwyd masnachwr ceffylau am wyth mis a'i wahardd rhag cadw ceffylau am bum mlynedd.
Cafwyd Tom Price, 48 oed o'r Wig ym Mro Morgannwg, yn euog o 57 o droseddau'n ymwneud â lles anifeiliaid a chreulondeb ac o achosi niwed diangen i 18 o geffylau oedd mewn pum lleoliad yn De Cymru.
'Pwerau cryfach'
Dywedodd y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd Alun Davies fod gadael ceffylau i bori'n wyllt wedi cael effaith ofnadwy ar rai cymunedau yn y de yn ddiweddar.
"Rydym yn gwybod nad yw ein fframwaith deddfwriaethol yn caniatáu i gyrff ddelio â'r broblem mor drylwyr a chadarn ag y byddem yn ei ddymuno.
"Dyna pam yr wyf yn cyflwyno Mesur Rheoli Ceffylau (Cymru) fydd, os bydd y Cynulliad yn ei gymeradwyo, yn rhoi pwerau cryfach a chyson i bob awdurdod lleol yng Nghymru i weithio tuag at atal y broblem.
600 o ymatebion
"Mae'r ddeddfwriaeth yn hybu perchnogaeth a rheolaeth gyfrifol ar geffylau ac yn caniatáu ymyrraeth gynnar pan mae ceffylau'n cael eu gadael ar dir heb ganiatâd."
Ychwanegodd gweinidogion y llywodraeth eu bod wedi derbyn dros 600 o ymatebion i ymgynghoriad ar bori anghyfreithlon yn gynharach eleni gyda'r "mwyafrif llethol" yn cefnogi deddfwriaeth well.
Deellir mai'r bwriad yw bod y ddeddf newydd yn dod i rym ym mis Ionawr 2014.
Straeon perthnasol
- 16 Gorffennaf 2013
- 5 Gorffennaf 2013