Milwr wedi marw yn Afghanistan

  • Cyhoeddwyd
Ar batrol
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y milwr ar batrol yn nhalaith Helmand yn Afghanistan.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod milwr wedi marw yn nhalaith Helmand yn Afghanistan.

Roedd yn aelod o 14fed Gatrawd y Signalau.

Mae gwersyll y gatrawd ym Mreudeth yn Sir Benfro ac mae ei deulu wedi cael gwybod.

Bu farw'r milwr pan oedd ar batrol yn ardal Kakaran ger Lashkar Gah.

445

Er iddo gael triniaeth feddygol, bu farw o'i anafiadau.

Y milwr oedd y cyntaf i farw ers mis Mawrth, a'r seithfed o Brydain i farw eleni.

Ers 2001 mae 445 o aelodau lluoedd arfog Prydain wedi marw yn Afghanistan.

Dywedodd llefarydd ar ran y tasglu yn Helmand, yr Is-gyrnol Hywel Lewis MBE: "Mae milwr gwych wedi marw yn amddiffyn ei gydfilwyr.

"Bydd y rheiny gafodd y fraint o wasanaethu gydag ef yn teimlo'r golled yn fawr.

"Mae ein meddyliau gyda'i deulu yn ystod y cyfnod anodd yma."