Meirion Lloyd Davies wedi marw
- Cyhoeddwyd
Yn dawel yn ei gartref bu farw'r Parchedig Meirion Lloyd Davies, Pwllheli, nos Lun yn 81 oed.
Mae'n gadael gweddw, Mair Lloyd Davies, tair merch a saith o wyrion ac wyresau.
Bydd gwasanaeth i ddiolch amdano yng Nghapel y Drindod, Pwllheli, brynhawn Sadwrn, Hydref 19.
Yn enedigol o Ddinbych, collodd ei dad yn ifanc a gadawodd yr ysgol i weithio fel clerc mewn swyddfa cyfreithiwr yn y dref.
Athroniaeth
Wedi cyfnod o wasanaeth milwrol gorfodol aeth i Goleg Prifysgol Cymru Bangor a graddio mewn athroniaeth.
Tra oedd yno bu'n Llywydd y Myfyrwyr.
Enillodd ysgoloriaeth a graddio ymhellach yng Ngholeg Westminster, Caergrawnt, ac enillodd wobr i dreulio tri mis mewn cystadlaethau siarad cyhoeddus yn America.
Yn ddiweddarach, dychwelodd i Goleg Prifysgol Bangor fel darlithydd diwinyddol rhan amser.
Ei ofalaeth gyntaf oedd capeli Gorffwysfa a Phreswylfa, Llanberis, ac yna derbyniodd alwad i gapeli Salem ac Ala Road, Pwllheli, gan dderbyn cyfrifoldeb dros gapeli Penrhos, Llannor ac Efailnewydd yn ddiweddarach.
Llywydd
Bu'n Llywydd Sasiwn y Gogledd, Llywydd y Gymanfa Gyffredinol, yn ysgrifennydd Cyngor Eglwysi Cymru ac yn gynrychiolydd Cymru ar Gyngor Eglwysi'r Byd.
Yn ystod ei yrfa hefyd bu'n olygydd Y Goleuad a'r cylchgrawn, Cristion.
Roedd galw cyson am ei wasanaeth fel pregethwr ar ôl iddo ymddeol o'r weinidogaeth yn 1998.
Bu'n aelod o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol am dros 20 mlynedd ac yn gweithredu ar Banel Iaith y Maes.
Bu'n is-lywydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Eryri, 2005 a derbyniodd y wisg wen gan yr Orsedd yn 1996.
Bu'n Faer Pwllheli yn 1978 ac yn aelod o hen gyngor sir Gaernarfon.
Roedd ganddo ddiddordeb ymarferol mewn gwleidyddiaeth, yn aelod o Blaid Cymru ers dyddiau cynnar ac yn areithydd a chadeirydd mewn nifer o gyfarfodydd cyhoeddus.
Heddwch
Ymgyrchodd hefyd dros heddwch, roedd yn aelod gweithgar o CND ac Amnest Ryngwladol a gweithiodd yn galed dros eciwmeniaeth ac uno'r enwadau.
Ymysg ei gyfraniadau ar y cyfryngau yr oedd cyflwyno cyfresi o raglenni crefyddol 'Iesu, Ddoe a Heddiw' ar S4C a darllediadau Munud i Feddwl ar Radio Cymru.
Bu'n ymgynghorydd rhaglenni crefyddol ar bwyllgor CRAC gydag ITV Prydain.