Arian dros dro i wasanaethau bws

  • Cyhoeddwyd
Arriva
Disgrifiad o’r llun,
Mae 46 o swyddi yn y fantol

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd cynllun brys dros dro'n helpu rhai gwasanaethau bws wedi i Arriva ddweud y bydden nhw'n dod i ben.

Fe allai canolfan yn Aberystwyth a gorsafoedd yng Nghei Newydd, Llambed a Dolgellau gau ar Ragfyr 21.

Yn ôl Edwina Hart, y Gweinidog Trafnidiaeth, bydd arian dros dro ar gael ar gyfer y gwsanaeth 94 o Wrecsam i'r Bermo.

Dywedodd y byddai'n ystyried cytundebau ar gyfer gwasanaethau eraill o dan drefn frys.

O dan fygythiad

Ar hyn o bryd mae gwasanaethau 20, 40, 40C, 50 a 585 o dan fygythiad yn sgil cyhoeddiad Arriva a allai olygu colli 46 o swyddi.

Ychwanegodd y gweinidog fod gan awdurdodau lleol bwerau ar gyfer rhoi cymhorthdal ar gyfer gwasanaethau y maen nhw'n eu hystyried yn angenrheidiol yn gymdeithasol, gan ddefnyddio eu cyllidebau eu hunain yn ogystal â chyllid Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol Llywodraeth Cymru.

Ond dywedodd ei bod yn debygol y byddai pwysau'n parhau ar y gefnogaeth a'r cyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru i wasanaethau bysus a chynlluniau trafnidiaeth cymunedol.

'Arloesol'

"O ystyried y sefyllfa anodd sydd ohoni, o ran ein hadnoddau prin a'r angen i'r rhwydwaith bysus ddenu mwy o deithwyr sy'n talu, bydd rhaid bod yn greadigol a cheisio dod o hyd i atebion arloesol i'n darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

"Hefyd mae angen i ni ystyried yr holl faterion sydd ynghlwm wrth y cymorth y gallwn ei roi i wasanaethau bysus yng Nghymru a sut y gallwn ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus yn well."

Dywedodd AC Ceredigion Elin Jones fod cyhoeddiad Arriva wedi creu panig i'r rhai oedd yn dibynnu ar wasanaeth bysus, gan gynnwys myfyrwyr yn Llambed ac Aberystwyth.

"Mae angen datrysiad tymor byr ond mae angen gwasnaeth cynaliadwy yn y tymor hir."