Cymru 4-0 San Marino
- Published
image copyrightGetty Images
Mae tîm dan 21 Cymru wedi curo San Marino o bedair gôl i ddim yn y gêm ragbrofol yn Stadiwm Nantporth ym Mangor.
Roedd angen y fuddugoliaeth yma arnyn nhw wedi iddynt orfod dioddef y cywilydd o golli yn erbyn San Marino, sydd ond a phoblogaeth o tua 31,000, ym mis Medi.
Ellis Harrison gafodd y gôl gyntaf ychydig cyn yr egwyl.
Llwyddodd Lee Lucas i ddyblu'r sgôr gydag ergyd wefreiddiol o ryw 30 medr, ac fe gafodd Welsey Burns a Billy Bodin gol yr un er mwyn cwblhau'r grasfa.
Mae Cymru bellach yn gyntaf yn y grŵp - ond maen nhw wedi chwarae dwy yn fwy na'r Ffindir a thair yn fwy na Lloegr.
Straeon perthnasol
- Published
- 11 Hydref 2013
- Published
- 10 Medi 2013
- Published
- 14 Awst 2013