Bad Achub newydd y Mwmbwls yn cyrraedd
- Cyhoeddwyd

Mae bad achub newydd gwerth £2.7m wedi cyrraedd ei gartref newydd yn y Mwmbwls, ger Abertawe.
Mae gan Tamar y Mwmbwls y dechnoleg ddiweddaraf, i helpu achub y rheiny mewn trafferthion ger arfordir Abertawe, ac mae'n fwy ac yn gyflymach na'r cwch blaenorol.
Dyma'r diweddaraf o bedwar bad achub newydd gafodd eu hariannu gan Gronfa Coffa Roy Barker, y dyn o Jersey a adawodd ei stad i Sefydliad Brenhinol y Badau achub yn 1992.
Roedd Mr Barker wedi gwneud arian o ffermio ac anifeiliaid, ac roedd yn gefnogwr o'r RNLI, ac mae badau cafodd eu hariannu gan ei gronfa wedi bod yn achub bywydau oddi ar Ynysoedd y Sianel, Wick yn yr Alban a Howth yn Iwerddon.
Dywedodd Martin Double o'r RNLI yn y Mwmbwls y bydd hi'n bleser cael defnyddio'r cwch am y tro cyntaf.
"Byddaf yn falch iawn cael dod a'r bad achub newydd yn ôl i Abertawe am y tro cyntaf." meddai.
"Mae e wir yn gwch arbennig ac mae gen i bob ffydd y bydd yn helpu ni i achub mwy o fywydau ger arfordir de Cymru."
Mae'r cwch wedi teithio ar hyd arfordir de Lloegr ac o amgylch Cernyw cyn cyrraedd Abertawe, lle mae pum aelod o'r tîm achub yn y Mwmbwls wedi treulio wythnos yn dod i arfer hefo'r Tamar a dysgu i ddefnyddio'r dechnoleg newydd.
Straeon perthnasol
- 15 Ebrill 2013
- 4 Mawrth 2013
- 20 Awst 2012
- 20 Tachwedd 2012