Dau gwmni teledu'n uno i greu un mwy
- Cyhoeddwyd

Mae un o gwmnïau cyfryngau mwyaf Cymru wedi uno gyda chwmni mawr o Loegr i ffurfio un o'r cwmnïau mwyaf y tu allan i Lundain.
Cyhoeddodd cwmni Twofour Group eu bod yn uno gyda Boom Pictures, sydd a'i bencadlys yng Nghaerdydd, i ffurfio Boom Pictures Group.
Dim ond ers 15 mis y sefydlwyd Boom Pictures wedi i reolwyr cwmni teledu Boomerang+ brynu'r cwmni. Cafodd Boom ei sefydlu ar y cyd rhwng Huw Eurig Davies a Lorraine Heggessey.
Bydd yr uniad gyda Twofour yn gweld ystod waith y cwmni'n ehangu i gynnwys mwy o waith adloniant ysgafn a rhaglenni dogfen, ond bydd hefyd yn gweld y cwmni newydd yn cynyddu ei bresenoldeb yn yr Unol Daleithiau ac Abu Dhabi.
Enillodd Twofour Group y wobr am gwmni cynhyrchu annibynnol gorau 2010.
Dywedodd Lorraine Heggessey, cadeirydd Boom: "Rydym ar daith gyffrous a dyma'r adeg iawn i ni ymuno gyda thîm creadigol gwych.
"Mae Boom a Twofour yn ffitio'n dda gyda'i gilydd... ac fe fydd y cytundeb yma yn sicrhau ein lle fel un o geffylau blaen y sector annibynnol."
Ychwanegodd Huw Eurig Davies, is-gadeirydd Boom: "Gwerth strategol y cytundeb yw ei fod yn gwireddu nifer o uchelgeisiau twf busnes ein cwmni.
"Mae'n bwysig i ni fel cwmni o Gymru bod gan Twofour ei wreiddiau hefyd yn y rhanbarthau sy'n golygu ein bod wedi ehangu ein gweithredoedd a gwneud Boom Pictures Group yn gyflenwr allweddol y tu allan i Lundain."
Fe fydd Twofour Rights yn dod yn gangen ddosbarthu a hawliau'r cwmni newydd ac fe fydd y grŵp hefyd yn elwa o swyddfa sydd gan Twofour yn Los Angeles ac Abu Dhabi.
Bydd Twofour yn cadw'r enw a brandio, ond fe fydd eu prif weithredwr Charles Wace yn camu nôl o'r swydd i fod yn aelod o fwrdd y ddau gwmni.
Straeon perthnasol
- 4 Gorffennaf 2012
- 18 Hydref 2011