Trafod i geisio achub swyddi First Milk yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae trafodaethau'n cael eu cynnal er mwyn ceisio achub 231 o swyddi sydd dan fygythiad oherwydd cynlluniau i gau ffatri gaws yn Wrecsam.
Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd perchnogion First Milk eu bod yn bwriadu cau'r safle erbyn Mai 2014 wedi iddyn nhw golli cytundeb gydag archfarchnad Asda.
Mae'r cytundeb wedi mynd i gwmni Arla, o Ddenmarc, fydd yn darparu'r cynnyrch o safle sydd ond 12 milltir o Wrecsam.
Yn sgil hynny mae trafodaethau nawr yn cael eu cynnal er mwyn ceisio darbwyllo Arla i roi gwaith i'r rhai fydd yn colli eu swyddi gyda First Milk.
Dywedodd Paul Flanagan, cyfarwyddwr perthnasau allanol First Milk: "Rydym wedi dweud yn ystod ein trafodaethau gyda nhw ein bod yn credu fod ganddynt gyfrifoldeb cyfreithiol, yn ogystal ag un moesol i gymryd y swyddi gyda'r cytundeb o Asda."
'Cwestiynau moesol mawr'
Yn ôl swyddog cenedlaethol undeb Usdaw, sy'n cynrychioli gweithwyr y ffatri, roedd y newyddion fod y cwmni wedi colli'r cytundeb yn "hollol annisgwyl".
"Rydym wedi'n synnu gan benderfyniad Asda," meddai David Johnson.
"Ond mae'n codi cwestiwn difrifol, rwy'n credu, pan mae gwerthwr yn gallu gwneud penderfyniad masnachol i symud cytundeb o un cwmni i'r llall a gyda 231 o swyddi'n mynd o ganlyniad i hynny.
"Rwy'n credu ei fod yn codi cwestiynau moesol mawr."
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn "siomedig" gyda'r newyddion a byddent yn trefnu cyfarfod brys gyda First Milk.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2013