Lladron wedi dwyn crysau rygbi

  • Cyhoeddwyd
Rob Howley
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y cyn fewnwr a hyfforddwr Cymru a'r Llewod, Rob Howley, wedi rhoi crys rhif 9 yn rhodd i glwb Maesteg

Mae lladron wedi dwyn nifer o eitemau unigryw a gwerthfawr yn y diweddaraf o dri lladrad o'r un clwb rygbi.

Roedd y crys rhif 9 a roddwyd i glwb rygbi Maesteg gan gyn chwaraewr Cymru a'r Llewod Rob Howley ymhlith yr eitemau i gael eu dwyn.

Cafodd dau grys arall eu dwyn o blith y pethau cofiadwy yn y clwb, gan gynnwys crys rygbi 13 Kevin Ellis.

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i'r lladradau, a dydyn nhw heb ddiystyried bod cysylltiad rhwng y tri.

Mae'r tri lladrad yn dod ar ben cyfnod anodd i glwb Maesteg wedi i dân ddinistrio rhan o adeilad y clwb ym mis Awst, ynghyd â rhan o'r prif eisteddle.

Dywedodd Cwnstabl Viv Price, o orsaf heddlu Maesteg: "Fe fyddai crys Rob Howley yn enwedig yn rhywbeth fyddai'n werthfawr iawn i'r lladron.

"Does dim modd cael crysau eraill yn lle'r rhain, ac maen nhw'n golygu llawer i'r clwb a'r aelodau.

"Rwy'n apelio ar unrhyw un fydd yn cael cynnig y crysau yma i'w prynu, neu sydd â gwybodaeth berthnasol i gysylltu â'r heddlu."

Dylai unrhyw un all fod o gymorth i'r ymchwiliad ffonio'r heddlu ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111 gan nodi'r cyfeirnod 62130324707.