Cytundeb newydd i gapten Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Mark WallaceFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae capten tîm criced Morgannwg, Mark Wallace, wedi ymestyn ei gytundeb gyda'r sir tan ddiwedd tymor 2016.

Mae Wallace, sydd hefyd yn wicedwr, wedi bod yn gapten y sir yn y bencampwriaeth gydol y tymor aeth heibio, ac fe gafodd ei ddyrchafu'n gapten y tîm undydd tua diwedd y tymor.

Bu Wallace, 31, yn aelod o garfan Morgannwg ers 15 mlynedd.

Dywedodd Morgannwg eisoes eu bod hefyd yn agos at arwyddo cytundebau fydd yn cadw Murray Goodwin a Dean Cosker ar gyfer y tymor nesaf, ac y bydd Simon Jones yn aros ymlaen i chwarae'r fersiwn T20 o'r gêm yn unig.

Mae'r sir hefyd wedi arwyddo'r batiwr Jaques Rudolph o Dde Affrica fel ei chwaraewr tramor ar gyfer y tymor nesaf, ac fe fydd yn cymryd lle Marcus North o Awstralia.