Cofio brwydr Llangyndeyrn

  • Cyhoeddwyd
Ardal Llangyndeyrn
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Corfforaeth Ddŵr Abertawe am godi argae

Mae hanner canrif ers i gymuned fach amaethyddol yn Sir Gaerfyrddin ennill y frwydr i atal cynlluniau i foddi eu tiroedd er mwyn cyflenwi dŵr i Abertawe.

Yr wythnos hon mae trigolion ardal Llangyndeyrn yn dathlu'r fuddugoliaeth gyda chyfres o ddigwyddiadau.

Hefyd nos Sul bydd rhaglen deledu Brwydr Llangyndeyrn yn adrodd yr hanes achub trwy gwrdd â theuluoedd y bobl a oedd wrth galon y frwydr.

'Colli bywoliaeth'

Dywedodd Huw Williams o fferm Pant-teg: "Fe fyddwn i wedi colli fy mywoliaeth i gyd - doedd 'da fi ddim byd i golli o frwydro.

"Yn bersonol, fe fyddwn i wedi colli hanner can mlynedd o fywyd hapus a'r pleser o basio fe 'mlaen i'r genhedlaeth nesa'."

Yn 1963 roedd Corfforaeth Ddŵr Abertawe am feddiannu'r tir amaethyddol dan bryniant gorfodol.

Cafodd yr actores Sharon Morgan ei magu yn Llandyfaelog, ychydig o filltiroedd o Langyndeyrn.

Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,
Huw Williams, Fferm Pant-Teg

Hi sydd yn cyflwyno'r rhaglen am hanes y frwydr.

"Dyma hanes am gymuned fach Gymraeg yn herio holl bwerau'r llywodraeth," meddai.

"Mae'n llenwi fi gyda hyder, beth y gall ein cymunedau ni ei gyflawni.

"Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gwybod yr hanes o hyn ymlaen ac yn deall y negeseuon pwysig yn y stori - hynny yw y gallwn ni sefyll lan yn erbyn pwerau sy'n ymddangos yn hollol anorchfygol a bod unrhyw beth yn bosib'."

Yn y pendraw fe roddodd y gorfforaeth ddŵr y gorau i'w cynlluniau yng Nghwm Gwendraeth Fach a thargedu safle ger Llanymddyfri, Llyn Brianne.

Fe fydd y rhaglen Brwydr Llangyndeyrn yn cael ei darlledu ar S4C nos Sul am 8.30pm.