Cyhoeddi enw milwr a fu farw
- Cyhoeddwyd

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi enw'r milwr a fu farw yn Afghanistan ddydd Mawrth.
Roedd yr Is-gorporal James Brynin, 22, yn aelod o 14eg Catrawd y Signalau, sydd â'u canolfan ym Mreudeth, Sir Benfro.
Roedd wedi bod yn gwasanaethu gydag uned rhyfela electroneg yn nhalaith Helmand ers mis Awst.
Cafodd ei saethu gan wrthryfelwyr tra yng nghanol ymgyrch yn ardal Nahr-e Saraj.
Yn enedigol o Shoreham-By-Sea yn Sussex, bu'n aelod o'r fyddin ers 2011.
Wrth roi teyrnged i'r Is-gorpral Brynin, dywedodd yr Is-gyrnol Mark Purves, o'r Signalau Brenhinol a 14eg Catrawd y Signalau:
"Roedd yr Is-gorporal Brynin yn boblogaidd iawn ac yn filwr pwysig ym mhob ffordd. Roedd eisoes wedi cwblhau un daith i Afghanistan.
"Roedd yn iach, yn benderfynol ac yn amlwg eisiau gwneud gwahaniaeth. Roedd ei ddyrchafiad yn gorpral llawn yn gynharach eleni yn brawf o'i allu."
Cyhoeddodd Cyngor Sir Benfro y bydd baneri'n chwifio ar hanner mast yn eu pencadlys fore Iau fel arwydd o barch i'r Is-gorporal Brynin.
Yr Is-gorpral Brynin oedd y milwr cyntaf i farw yn Afghanistan ers mis Mawrth, a'r seithfed o Brydain i farw eleni.
Ers 2001 mae 445 o aelodau lluoedd arfog Prydain wedi marw yn Afghanistan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2013