Bachgen 13 oed wedi ei ffeindio yn saff

  • Cyhoeddwyd
Michael Driver
Disgrifiad o’r llun,
Mae Michael Driver erbyn hyn wedi ei ffeindio yn saff

Mae bachgen 13 oed oedd wedi bod ar goll o'i gartref yn Sir Fynwy wedi ei ffeindio yn saff.

Doedd Michael Driver o Rogiet ddim wedi ei weld ers 2:30yh ddydd Sadwrn 12 Hydref.

Mi oedd yr heddlu yn pryderu am ei ddiogelwch ond maen nhw wedi dweud ei fod o wedi ei ddarganfod.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol