Parhau i ariannu mudiad bocsio

  • Cyhoeddwyd
Bocsio
Disgrifiad o’r llun,
Roedd penderfyniad Chwaraeon Cymru 'er budd y rhai oedd yn cymryd rhan ar lawr gwlad ... a chystadleuwyr eltaidd'

Mae Chwaraeon Cymru wedi penderfynu parhau i roi arian i fudiad nad oedd, yn ôl adroddiad, yn "ateb y gofyn".

Yn ôl adroddiad archwilwyr annibynnol nid oedd yn bosibl profi nad oedd achosion o dwyll yng Nghymdeithas Bocsio Amatur Cymru.

Maen nhw hefyd wedi dweud nad oedd digon o dystiolaeth ar gyfer dros 30% o'r holl wariant ddigwyddodd yn y cyfnod dan sylw.

Mewn datganiad mae'r mudiad bocsio wedi dweud nad oedd tystiolaeth bod twyll wedi digwydd.

Er hynny, maen nhw wedi derbyn argymhellion yr adroddiad ac yn llunio cynllun gweithredu.

'Dim sicrwydd'

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru er mwyn gwerthuso a oedd y mudiad bocsio yn addas ar gyfer derbyn arian cyhoeddus.

Casglodd yr archwilwyr KTS Owens Thomas nad oedden nhw'n gallu rhoi'r sicrwydd hynny oherwydd cyfres o fethiannau.

Dywedodd yr adroddiad: "... nid oedd tystiolaeth ddigonol ar gyfer dros 30% o'r gwariant ddigwyddodd yn y ddwy flynedd a 10 mis sydd dan sylw.

"Cafodd taliadau eu gwneud mewn arian parod heb ddarparu derbynneb. Mae hyn yn peri pryder arbennig.

"Nid ydym wedi darganfod tystiolaeth o dwyll ond ni allwn chwaith fod yn sicr nad oedd twyll wedi digwydd.

"Mae hyn oherwydd absenoldeb cofnodion ariannol.

"Rydym wedi darganfod rhai anghysonderau ariannol, gan gynnwys symiau sylweddol gafodd eu gwario ar ornestau rhyngwladol oedd heb dystiolaeth gefnogol ddigonol."

'Annerbyniol'

Mae'r adroddiad wedi casglu nad oedd y mudiad bocsio'n "ateb y gofyn" ac y dylai Chwaraeon Cymru "ystyried oblygiadau hynny".

Dywedodd Chwaraeon Cymru eu bod wedi penderfynu parhau i roi cyllid iddyn nhw tra bod gwelliannau yn cael eu gweithredu.

Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol Sarah Powell: "Mae Chwaraeon Cymru wedi gwneud yn gwbl glir i'r mudiad fod y rheolaethau ac arferion ariannol sydd eu hangen yn rhai sy'n gyffredin ym mhob sefydliad a bod eu methiant i gydymffurfio â safonau sylfaenol o lywodraethu a rheolaeth ariannol yn gwbl annerbyniol.

"Mae cynllun gweithredu wedi cael ei gytuno i helpu cyflawni pob un o'r argymhellion yn yr adroddiad.

"Er budd y rheiny sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau'r gamp ar lawr gwlad yn ogystal â chystadleuwyr elitaidd, mae Chwaraeon Cymru wedi penderfynu parhau i ariannu ond mae wedi rhoi mesurau arbennig i ddiogelu arian cyhoeddus, hyd nes y bydd cynnydd boddhaol ar yr argymhellion."

Mae cadeirydd y mudiad bocsio Terry Smith wedi cyhoeddi datganiad ar eu gwefan.

"Ni wnaeth yr adroddiad archwilio ddarganfod unrhyw dystiolaeth o dwyll ond rydym yn derbyn yr argymhellion ehangach ac yn cydnabod bod lle i wella," meddai.

"Rydym yn gweithio'n agos â Chwaraeon Cymru i fynd i'r afael â'r argymhellion yn yr adroddiad ac mae gennym gynllun gweithredu 12 mis a gytunwyd.

"Mae'r cynnydd eisoes wedi dechrau."

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol