Lleidr yn dwyn gwerth £30,000 o aur
- Cyhoeddwyd

Mae gwerth tua £30,000 o aur wedi ei ddwyn o fflat yn y Pîl ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Digwyddodd y lladrad rhwng 4yh ddydd Sul Hydref 13 a 2yh y dydd Mawrth canlynol wedi i rywun lwyddo i gael mynediad drwy ffenestr yn y gegin.
Yn ôl Heddlu De Cymru, cafodd 15 darn o arian a bariau eu dwyn yn ogystal â dyfais Kindle.
Roedd yr aur yn cael ei gadw mewn bag felfed lliw marŵn ac mae'r heddlu'n amau y gallai'r lleidr fod wedi ei daflu o'r neilltu.
'Nodweddiadol'
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Paul Mason: "Mae'r eiddo gafodd ei ddwyn yn nodweddiadol iawn.
"Rydym yn credu bydd y lleidr yn ceisio eu gwerthu i gasglwr neu gyfnewid yr aur am arian parod.
"Rydym yn apelio i bobl sy'n gweithio mewn siopau gwystl fod yn wyliadwrus."
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio Heddlu De Cymru ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.