Diffynnydd yn 'mwynhau hud a lledrith'
- Cyhoeddwyd

Mae cyn faer tref Ddinbych wedi gwadu gosod dyfais ffrwydrol ger ei gartref oedd yn cynnwys peli metel.
Mae John Larsen, 46, yn wynebu cyhuddiadau o achosi ffrwydradau, cynnau tân yn fwriadol, a bod yn berchen ar ffrwydron.
Mae o hefyd yn wynebu cyhuddiad o fod efo ffrwydron gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
Ond mae'n gwadu'r rhain i gyd, gan fynnu nad fo oedd yn gyfrifol am gyfres o ffrwydradau yn Ninbych yn gynharach y flwyddyn hon.
Dywedodd yn Llys y Goron Caernarfon ei fod wedi prynu cemegau ar gyfer triciau hud a lledrith ac ar gyfer gwneud tân gwyllt.
Hud a lledrith
Roedd yn hoff o gynnal sioeau hud ar gyfer ei ffrindiau a'i deulu, meddai.
Gofynnodd Gordon Hennell, bargyfreithiwr yr amddiffyn: "A wnaethoch chi erioed ddefnyddio peli metel fel shrapnel mewn dyfais?"
"Naddo," atebodd Larsen. "Erioed."
Mae'r erlyniad yn honni ei fod yn gyfrifol am nifer o ffrwydradau rhwng mis Chwefror ac Ebrill gyda digwyddiad ar Fawrth 24 y mwyaf difrifol pan osodwyd dyfais ffrwydrol o dan Land Rover Discovery.
"A wnaethoch chi chwarae unrhyw ran yn y ffrwydradau hyn, a ddigwyddodd yn y nos?" gofynnodd Hennell.
"Naddo," oedd ateb Larsen.
'Afreolus iawn'
Dywedodd ei fod yn ei wely "am y rhan fwyaf o'r digwyddiadau, heblaw am pan roeddwn lawr grisiau".
"Mae'n mynd yn afreolus iawn yn y nos," ychwanegodd.
Mae Mr Larsen yn cydnabod ei fod wedi bod yn arbrofi gyda gwahanol fathau o danwydd roced ar gyfer tân gwyllt, ond ei fod yn gwneud hyn yn ystod y dydd yn ei ardd.
"Yr unig beth roeddwn yn wneud oedd arbrofi gyda'r gwahanol danwyddau er mwyn gweld a oedden nhw'n ddigon da."
Gofynnwyd iddo: "A gafodd unrhyw un o'r arbrofion yma ei gynnal yn y nos?"
"Na. Nid oes gen i olau digon da yn yr ardd gefn," meddai Larsen.
Dywedodd hefyd ei fod yn berchen ar fflerau oherwydd ei fod yn bwriadu eu defnyddio ar gyfer cyfres o luniau wedi ei selio ar y cymeriad ffuglen Lara Croft.
Ond ddigwyddodd hyn ddim, meddai Mr Larsen, oherwydd y gost o fenthyg model.
Maer
Mae'r rheithgor wedi clywed fod John Larsen wedi bod yn aelod o gyngor tref Dinbych ers 20 mlynedd, sy'n cynnwys cyfnod fel maer rhwng 1999 a 2000.
Cafodd ei arestio ger ei gartref ym Mhwll y Grawys ar Ebrill 19.
Mae'r llys wedi clywed bod y diffynnydd wedi bod yn ymchwilio i ffrwydron ar ei gyfrifiadur a bod ffeiliau penodol yn cyfeirio at ffrwydron ac "arbrofi".
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- 10 Hydref 2013
- 9 Hydref 2013
- 8 Hydref 2013
- 7 Hydref 2013
- 22 Ebrill 2013