Cyrch cyffuriau: Arestio 46 o bobl yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Cyrch heddluFfynhonnell y llun, Heddlu'r De
Disgrifiad o’r llun,
Buodd yr heddlu yn ymchwilio am chwe mis cyn arestio'r bobl

Mae 46 o bobl wedi eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â chyffuriau.

Cawson nhw eu harestio dros gyfnod o dair wythnos mewn ardaloedd yng Nghaerdydd.

40 o ddynion, 4 o ferched a 2 o bobl ifanc sydd wedi eu harestio, ac mae menyw arall wedi ei harestio ar gyhuddiad o fod efo chwistrelliad CS.

Cafodd y bobl eu harestio ar ôl i'r heddlu fod yn ymchwilio am chwe mis.

Roedden nhw yn targedu unigolion oedd yn gwerthu cyffuriau dosbarth A i bobl yn Cathays, Y Rhath, Grangetown, Glan yr Afon a chanol y ddinas.

Penderfynodd yr heddlu i ymchwilio'r llefydd yma ar ôl clywed pryderon yn lleol am gyffuriau yn y cymunedau.

Gwerthu "ar y stryd"

Dywedodd yr heddlu bod yr ymchwiliad wedi golygu cydweithio agos hefo Cyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Trwy gydweithio mae cefnogaeth wedi ei roi i rhai sydd yn defnyddio cyffuriau.

Mae ardaloedd lle roedd cyffuriau yn cael eu defnyddio yn y gorffennol wedi eu clirio yn ôl yr heddlu.

Dywedodd pennaeth y CID yng Nghaerdydd, y Prif Arolygydd Tony Brown, bod yr ymchwiliad wedi ei gynnal er mwyn taclo cyffuriau mewn cymunedau.

"Yn ystod yr ymchwiliad yma rydym wedi gweld cyffuriau yn cael eu gwerthu yn agored ar ein strydoedd, mewn parciau a ffyrdd. Dydyn ni ddim yn mynd i oddef hynny.

"Mae'r ymchwiliad yma yn rhywbeth oedd angen ei wneud oherwydd dyna y mae pobl Caerdydd yn ei haeddu."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol