Rhyddhau rheithgor achos Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae'r rheithgor yn achos dyn ar gyhuddiad o lofruddio menyw yn ei chartre' wedi cael eu rhyddhau.
Nid oedd modd penderfynu dyfarniad.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Glynis Solmaz, 65 oed, wedi ei lladd yn Wrecsam yn Chwefror.
Mae Alexandros Wetherill, 24 oed o Wrecsam, wedi gwadu cyhuddiad o lofruddio.
Dywedodd Mr Ustus John Griffith Williams ei fod yn disgwyl achos arall cyn y Nadolig.
Roedd y rheithgor, wyth menyw a phedwar dyn, wedi bod yn trafod am fwy nag un awr ar ddeg.
Fore Iau dywedodd y barnwr ei fod yn fodlon derbyn dyfarniad mwyafrifol.
Brynhawn Iau diolchodd i'r rheithgor am eu gofal a'u sylw a dweud na ddylen nhw boeni gan nad oedden nhw nhw wedi cytuno ar ddyfarniad.
Ddydd Mercher cafwyd diffynnydd arall yn ddieuog o lofruddio neu ddynladdiad.