Carchar wedi i ddau farw oherwydd ras ar Heol y Blaenau
- Cyhoeddwyd

Mae gyrrwr wedi ei garcharu am bum mlynedd wedi i ddau arall farw oherwydd rasio ar ffordd yn ne Cymru.
Roedd Luke Jones, 24 oed o Glydach ger Y Fenni, yn gyrru ar gyflymder o hyd at 100 mya ar Heol Blaenau'r Cymoedd eiliadau cyn y gwrthdrawiad ar Hydref 27 y llynedd.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd ei fod yn rasio yn erbyn Phillip Bath o Lyn Ebwy gollodd reolaeth ar ei gar symudodd i lôn lle oedd traffig yn mynd i'r cyfeiriad arall.
Tarodd car Mr Bath feic modur Glyndwr Evans o Lyn-nedd a'i ladd yn y fan a'r lle.
Cafodd Mr Bath ei gludo i'r ysbyty ond bu farw.
Roedd Jones wedi gadael safle'r gwrthdrawiad ond cafodd ei arestio mewn tafarn gyfagos.
Cafodd beiciwr arall, David Cooper, 65 oed, driniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd am dros ddau fis ond clywodd y llys na fydd yn gallu gyrru beic modur eto.
Cyfaddef
Clywodd y llys fod y gwrthdrawiad wedi i Jones frecio'n sydyn.
Roedd car Peugeot melyn Mr Bath wedi methu prawf MOT yn gynharach y diwrnod hwnnw ac nid oedd "yn gymwys i gael ei yrru".
Roedd Jones wedi gwadu unrhyw ran yn y digwyddiad ond cyfaddefodd yn ddiweddarach iddo achosi marwolaeth drwy yrru yn beryglus.
Roedd eisoes wedi ei wahardd rhag gyrru yn 2008 a 2010 a ddydd Iau cafodd ei wahardd rhag gyrru am bum mlynedd.
'Trac rasio'
Dywedodd y Barnwr Daniel Williams fod hwn yn "achos gwarthus o yrru dros bellter sylweddol".
"Roeddech chi'n defnyddio'r ffordd fel trac rasio ar adeg pan oedd llawer o geir ar y ffyrdd ac roeddech chi'n berygl difrifol.
"Ni all unrhyw ddedfryd gysuro rheiny sy'n galaru dros farwolaethau Mr Bath a Mr Evans na gwella'r hyn sydd wedi digwydd i Mr Cooper."
Straeon perthnasol
- 28 Hydref 2012
- 27 Hydref 2012