Annog ymwrthod rhag alcohol am fis

  • Cyhoeddwyd
alcohol
Disgrifiad o’r llun,
Mae ymchwil yn dangos bod 40% o bobl yng Nghymru yn yfed mwy nac sy'n cael ei argymell fel lefel diogel

Fe fydd gweinidog iechyd Cymru yn lansio ymgyrch heddiw fydd yn annog pobl i beidio yfed alcohol drwy gydol mis Ionawr 2014.

Bydd Mark Drakeford yn dechrau ymgyrch 'Ionawr Sych' ar ran Alcohol Concern Cymru yn y Lolfa Ryngwladol Ddi-alcohol yn Undeb y Myfyrwyr yng Nghaerdydd.

Mae Ionawr Sych yn her gan yr elusen i oedolion yng Nghymru a Lloegr i roi'r gorau i yfed alcohol am 31 diwrnod er mwyn teimlo'n well, arbed arian ac i ddechrau sgwrs am y rôl y mae alcohol yn ei chwarae ym mywydau bob dydd y boblogaeth.

Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o beth yw yfed cyfrifol. Nid yw'n ceisio annog pobl i roi'r gorau i alcohol am byth, ond dywedodd llawer a fu'n rhan o ymgyrch debyg ar ddechrau 2013 eu bod yn yfed llai ar ôl cwblhau mis heb alcohol.

Bydd yr ymgyrch yng Nghymru yn digwydd yn dilyn cyhoeddi ffigyrau digalon am y defnydd o alcohol yng Nghymru.

Ymhlith yr ystadegau roedd ymchwil gan Alcohol Concern eu hunain oedd yn dangos bod nifer sylweddol o bobl ifanc dan 18 oed yn llwyddo i brynu alcohol ar-lein gan archfarchnadoedd.

Mae ymchwil arall wedi dangos bod pedwar o bob deg oedolyn yng Nghymru yn yfed mwy na'r canllaw dyddiol o alcohol a chwarter y bobl ymatebodd yn yfed dros ddwywaith y maint sy'n cael ei argymell.

Bydd ymgyrch Ionawr Sych hefyd yn cael ei ddefnyddio fel modd o godi arian i elusen Alcohol Concern gan y bydd pobl sy'n cymryd rhan yn yr ymgyrch yn medru cael eu noddi gan deulu a chyfeillion.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol