Agor ffordd gyswllt newydd gwerth £107m ym Mhort Talbot agor
- Cyhoeddwyd

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi agor ffordd gyswllt sy'n werth £107 miliwn.
Y gobaith yw y bydd Ffordd yr Harbwr dair milltir o hyd o Gyffordd 38 ym Margam yn hwb i ardal y dociau ym Mhort Talbot.
Bydd hefyd yn lleihau trafnidiaeth yn y dref.
Mae cynllun y ffordd yn un o'r prosiectau trafnidiaeth mwyaf erioed i gael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
'Sylweddol'
Dywedodd arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot Ali Thomas: "Mae cwblhau Ffordd yr Harbwr yn ddatblygiad sylweddol i dref Port Talbot ac i'r fwrdeistref sirol i gyd.
"Drwy gysylltu safleoedd cyflogaeth allweddol ac agor tir ar gyfer ei ddatblygu, mae'r cynllun yn cynnig nifer o gyfleoedd ar gyfer twf ac adfywiad.
"Bydd y lles economaidd yn bellgyrhaeddol, ac yn wir mae'r buddsoddiad yma eisoes wedi dechrau dwyn ffrwyth."
Mae ardal y dociau yn cael ei throi'n ganolbwynt i fusnesau sy'n canolbwyntio ar wybodaeth, gan greu cannoedd o swyddi â sgiliau.
£12m
Mae cynlluniau eisoes ar y gweill i ddatblygu ardal Parc yr Harbwr ac fe allai hynny arwain ar fuddsoddiad posib o dros £12 miliwn, gan greu 700 o swyddi newydd.
Hefyd mae cynlluniau eraill yn cael eu datblygu ar gyfer datblygiad hamdden a chartrefi fydd yn cael eu lleoli ger y dociau.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Mae Ffordd yr Harbwr wedi ei chwblhau a £9.5 miliwn yn fwy o arian Llywodraeth Cymru ar ei ffordd i ail-ddatblygu gorsaf drenau Port Talbot Parkway.
"Fe fydd yr isadeiledd mewn lle cyn bo hir i ddenu buddsoddiad pellach i'r rhanbarth fel y bydd yn lle cyffrous i fyw a gweithio ynddo a lle ar gyfer busnesau am flynyddoedd lawer i ddod."