Corff rheoli bocsio'n 'anaddas i'w bwrpas'
- Cyhoeddwyd

Nid yw'r corff sy'n gyfrifol am focsio amatur yng Nghymru yn "addas i'w bwrpas" ac nid yw'n "gymwys i dderbyn arian cyhoeddus" yn ôl adroddiad archwiliad annibynnol.
Dywedodd Cymdeithas Bocsio Amatur Cymru (WABA) nad yw'r archwiliad wedi canfod tystiolaeth o weithgareddau twyllodrus, ond dywedodd eu cadeirydd y byddai'n cymryd camau sydd wedi'u hargymell i gywiro pethau.
Dywedodd Chwaraeon Cymru eu bod am barhau i ariannu'r gymdeithas, ond eu bod wedi gosod amodau arbennig mewn lle.
Cafodd yr adroddiad i weithgareddau'r WABA ei gomisiynu gan y gymdeithas ei hun ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru sy'n goruchwylio a hybu chwaraeon ac yn cynghori'r llywodraeth.
Grantiau
Cafodd yr archwiliad ei gynnal gan gwmni cyfrifwyr KTS Owens Thomas, ac mae eu hadroddiad yn dweud:
"Ein barn ni yw nad yw'r WABA yn addas i'w bwrpas ac nad yw'n gymwys i dderbyn arian cyhoeddus.
"Rhaid i Chwaraeon Cymru ystyried goblygiadau'r canfyddiadau yma.
"Rydym yn credu os fydd WABA yn gweithredu'r argymhellion yn yr adroddiad hwn fe fydd yn addas i'w bwrpas ac yn gymwys i dderbyn arian cyhoeddus."
Yn 2012 fe dderbyniodd WABA grantiau gan Chwaraeon Cymru o dros £190,000 - mwy na dwbl y grantiau o £89,000 a gafwyd yn 2006.
Mae adroddiad yr archwilwyr yn rhestru nifer o bryderon ariannol, gan gynnwys:
- Ni chafodd dros 30% o holl wariant WABA dros gyfnod o dair blynedd ei gefnogi gan 'ddigon o dystiolaeth berthnasol a phriodol';
- Talwyd rhai biliau mewn arian sychion heb gael derbynneb, gyda'r archwilydd yn dweud bod hynny'n 'destun pryder arbennig';
- Doedd dim tystiolaeth o dwyll ond ychwanegodd yr archwilydd: "Nid ydym yn gwbl fodlon nad oedd twyll. Mae hyn oherwydd absenoldeb cofnodion ariannol digonol.";
- Esiamplau o brynu amhriodol: "Fe gafodd nifer o bethau a gwasanaethau oedd eu hangen ar WABA eu prynu gan unigolion oedd wedi hawlio ad-daliad gan WABA - ni ddylai fod angen hyn mewn sefydliad sy'n cael ei redeg yn gywir."
'Rheolaeth wael'
Aiff yr adroddiad ymlaen i ddweud: "Ar y cyfan, ein canfyddiad yw bod rheolaeth gorfforaethol yn wael. Rydym o'r farn ei fod yn gwella, ond nid yw wedi cyrraedd lefel derbyniol."
Wth ymateb i'r adroddiad dywedodd cadeirydd WABA Terry Smith: "Yn amlwg rydym yn siomedig iawn, ond fe fyddwn yn cymryd y camau sydd wedi'u hargymell o gywiro pethau cyn gynted â phosib."
Yn ôl Chwaraeon Cymru mae methiannau WABA yn "annerbyniol" a dywedodd y prif weithredwr Sarah Powell bod cynllun gweithredu mewn lle bellach i gywiro pethau yn WABA.
Ychwanegodd: "Er lles cystadleuwyr yn y gamp mae Chwaraeon Cymru wedi penderfynu parhau i ariannu WABA, ond rydym wedi gosod nifer o amodau arbennig mewn lle i warchod arian cyhoeddus tan y bydd gwelliannau wedi deillio o weithredu'r argymhellion."