Dysgu gwersi

  • Cyhoeddwyd
Fe gyhoeddodd y Swyddfa Gartref gyfres o hysbysebion teledu am drais yn y cartref yn 2010
Disgrifiad o’r llun,
Fe gyhoeddodd y Swyddfa Gartref gyfres o hysbysebion teledu am drais yn y cartref yn 2010

Fe fydd cynllun peilot yn Sir Gaerfyrddin i ddysgu gwersi am drais yn y cartref i ddisgyblion cynradd yn cael ei ehangu i weddill Cymru os bydd cyllid ar gael.

Roedd cynllun Sbectrwm gan elusen Hafan Cymru ond wedi digwydd mewn ysgolion uwchradd yn flaenorol.

Ond bellach maen nhw wedi cynnal chwe sesiwn i blant 10 ac 11 oed mewn dwy ysgol ynghyd â sesiwn arall i rieni a hyfforddiant i staff.

Cafodd y disgyblion eu dysgu sut i adnabod arwyddion o berygl mewn perthynas.

Hysbysebion

Dywedodd Gaynor Jones, swyddog adnoddau ysgolion Hafan Cymru, bod y cynllun wedi bod mor llwyddiannus fel mai'r nod bellach yw ei ehangu i weddill y wlad.

"Mae yna gynlluniau eraill sy'n fwy therapiwtig sy'n targedu plant sy'n barod yn byw mewn cartrefi treisgar," meddai.

"Ond dyma'r cynllun cyntaf yng Nghymru yr ydym yn gwybod amdano sydd wedi cael ei gynnig i blant ar draws blynyddoedd 5 a 6.

"Mae'r disgyblion wedi bod yn wych, yn agored iawn, ac maen nhw wedi dysgu llawer o syniadau newydd.

"Rydym hefyd yn clywed eu bod nhw wedi trafod y mater gyda'u rieni adref ac mae hynny'n wych - rydym am i'r negeseuon gael eu cario adref."

Yn 2010 fe lansiodd y Swyddfa Gartref ymgyrch hysbysebion teledu am drais yn y cartref ar gyfer pobl yn eu harddegau.

Y llynedd roedd traean defnyddwyr gwasanaethau Hafan Cymru rhwng 16 a 24 oed, ac mae'r sefydliad yn teimlo mai gwaith ataliol mewn ysgolion yw'r allwedd i leihau trais yn y cartref mewn cymunedau.

Ond mae Ms Jones yn cyfaddef y gallai diffyg cyllid olygu na fydd y cynllun yn cael ei ehangu, ac mae'n gobeithio y bydd papur gwyn Llywodraeth Cymru am drais yn erbyn merched yn dod yn ddeddf gan ddod ag arian yn ei sgil.

"Rydym yn gwybod bod pobl ifanc yn eu harddegau yn mynd i mewn i berthnasau treisgar yn iau nag erioed," ychwanegodd Ms Jones.

"Erbyn i bobl ifanc gyrraedd ysgolion uwchradd, dyw hi ddim yn rhy hwyr ond os allwn ni drosglwyddo ein neges yn gynt na hynny fe fyddai'n wych."

Adolygiad

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi comisiynu adolygiad annibynnol o holl wasanaethau trais yn erbyn merched, trais yn y cartref a thrais rhyw gan Brifysgol Canol Sir Gaerhirfryn.

"Ni fydd penderfyniadau am gyllido'n cael eu gwneud tan ein bod wedi derbyn canlyniadau'r adolygiad yma.

"Mae mesurau ataliol yn flaenoriaeth yn y Mesur Diweddu Trais a Cham-drin yn y Cartref, gan gynnwys sesiynau ymwybyddiaeth 'perthynas iach' mewn ysgolion."