Sheen: 'Cyngor yn rhoi elw gyntaf'
- Cyhoeddwyd

Mae'r actor Michael Sheen wedi cyhuddo cyngor Casnewydd o roi "elw o flaen popeth arall" mewn llythyr yn yr Argus.
Cyfeirio at benderfyniad y cyngor i ddymchwel murlun oedd yn portreadu hanes y siartwyr oedd yn Sgwâr John Frost oedd Mr Sheen.
Roedd llawer o bobl leol yn anhapus gyda'r penderfyniad a gafodd ei wneud er mwyn codi canolfan siopa ar y safle.
Mae'r BBC wedi gofyn i Gyngor Casnewydd am ymateb.
Y Siartwyr
Mae Mr Sheen, a gafodd ei eni yng Nghasnewydd, yn actor byd enwog ac mae wedi datgan ei edmygedd tuag at fudiad y Siartwyr yn y gorffennol.
Symudiad dosbarth gweithiol oedd Siartiaeth wedi ei arwain yn bennaf gan weithwyr â sgiliau oedd yn galw am newid y system wleidyddol er mwyn ei wneud yn fwy democrataidd.
Fe gydiodd yn nychymyg pobl de Cymru yn enwedig ac yng Nghasnewydd y digwyddodd un o'i brwydrau enwocaf wrth i grŵp ohonynt, wedi eu harwain gan un o arweinwyr y mudiad John Frost, fartsio ar Gwesty'r Westgate yn y ddinas.
Cafodd 20 eu lladd mewn ymladd gyda'r uchelwyr a'r milwyr oedd yn y gwesty ar y pryd - dyma'r digwyddiad oedd yn cael ei goffau ar y murlun a ddinistriwyd.
Mae llythyr Mr Sheen yn dweud: "Yn dilyn y digwyddiadau oedd yn amgylchynu dinistrio'r murlun oedd yn dathlu'r Siartwyr yn Sgwâr John Frost yn ddiweddar, rwy'n teimlo rheidrwydd i ysgrifennu llythyr agored at bobl Casnewydd.
"Yn gyntaf, mae'r eironi filain o rywbeth gafodd ei greu er mwyn dathlu'r rheiny wnaeth fentro gymaint ar gyfer budd pawb arall yn cael ei ddinistrio heb ymgynghori gyda'r bobl ei hunain, a hyn o dan nawdd cyngor wedi ei reoli gan Lafur sydd yn rhoi elw o flaen popeth arall, yn absẃrd ac yn drasig.
"Mae'r ffaith bod cyn lleied wedi ei wneud, neu bod cyn lleied y gallwn ni fod wedi ei wneud, er mwyn atal hyn rhag digwydd yn dod â chywilydd arnom ni i gyd...
"Yn amlwg, mae'r system wleidyddol wedi'n gadael ni lawr yn yr achos yma."
Mae Mr Sheen yn mynd ymlaen i gynnig bod murlun newydd yn cael ei greu gyda chefnogaeth y gymuned, gan ddefnyddio darnau o'r un blaenorol.
Ymateb
Yn ymateb i'r llythyr, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Casnewydd:
"Mae dyfodol y murlun wedi bod yn gyhoeddus ers mis Mawrth 2012, pan wnaeth penderfyniad cynllunio ac ymgynghoriad cyhoeddus sicrhau y byddai rhaid i'r murlun gael ei ddymchwel a'r opsiwn gafodd ei ffafrio oedd i'w ail greu ar deils."
Dywedon nhw hefyd bod penderfyniad Cadw i beidio â rhestru'r murlun, a'r gost uchel o'i symud wedi bod yn ffactorau pwysig yn y penderfyniad.
"Mae'r cyngor o'r farn bod llythyr Mr Sheen yn un diddorol iawn. Mae'n meddwl i'r dyfodol ac yn cynnwys awgrymiadau ymarferol y bydd y cyngor yn eu hystyried.
"Ar hyn o bryd rydym yn gofyn i aelodau'r cyhoedd roi eu barn ar ffordd newydd o goffau'r Siartwyr, ac mae manylion ar ein gwefan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd18 Medi 2013