'Angen treth cyngor uwch ar ail dai'

  • Cyhoeddwyd
Goriad ty
Disgrifiad o’r llun,
Mae cynghorwyr Plaid Cymru yn dweud bod 'na ail dai sy'n wag am nifer o fisoedd yng Ngwynedd

Mae angen codi treth cyngor uwch ar berchnogion ail dai, yn ôl cynghorwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd.

Dywedodd y cynghorwyr y byddai'r arian ychwanegol yn medru cael ei ddefnyddio i godi mwy o dai y gallai pobl leol eu fforddio.

Byddai'r arian yn cael ei roi mewn cronfa newydd penodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar roi pwerau disgresiwn i gynghorau lleol fedru cynyddu'r dreth gyngor ar ail gartrefi.

£5m

Yn ôl y cynghorwyr, mae gwaith ymchwil cychwynnol yng Ngwynedd wedi dangos y byddai modd codi tua £5 miliwn bob blwyddyn drwy gynyddu'r dreth cyngor.

Byddai hyn, medden nhw, yn golygu y byddai modd adeiladu tua 50 o dai ar gyfer pobl leol.

Dywedon nhw fod mwy o bobl yn dod i ardaloedd fel Pwllheli, Porthmadog ac Abersoch ar eu gwyliau a bod hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau lleol.

Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru yng Ngwynedd, Dyfed Edwards: "Yng Ngwynedd y mae'r ganran uchaf o ail gartrefi ledled Cymru a Lloegr.

'7,784'

"Yn 2010 gwnaed astudiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru oedd yn amcangyfrif fod 22,000 o dai yng Nghymru yn wag am fwy na chwe mis y flwyddyn. O'r cyfanswm yna roedd 7,784 wedi eu cofrestru fel ail gartref yng Ngwynedd.

"Mae gormod o ail gartrefi yn gorwedd yn wag am gyfran helaeth o'r flwyddyn, gan greu adeiladau segur sy'n cyfrannu namyn dim i gymunedau, i'r economi leol na chynnig dim i werth cymdeithasol yr ardaloedd yma.

"Yn ogystal mae rhai o'r tai yma'n atal y farchnad, ac eithrio pobl ifanc sydd wedi eu geni a'u magu yn y cymunedau, rhag cael eu traed ar yr ysgol eiddo."