Tân wedi lladd menyw yn Aberdâr

  • Cyhoeddwyd
Tân
Disgrifiad o’r llun,
Roedd rhannau o'r adeilad wedi dymchwel

Mae'r Gwasanaeth Tân wedi dweud bod menyw 18 oed wedi marw mewn tân yn Abernant, Aberdâr.

Cafodd diffoddwyr eu galw am 7.38yb ddydd Gwener oherwydd adroddiadau bod rhywun yn sownd mewn adeilad.

Mae'r Gwasanaeth Tân a'r heddlu'n ymchwilio.

Dywedodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Andy Thomas: "Mae'r teulu wedi cael gwybod ac rydym yn cydymdeimlo'n fawr â nhw.

"Roedd yr amodau'n anodd iawn ac rwy'n ddiochgar i'r criwiau tân oherwydd eu hymdrechion glew."

Dywedodd y dylid parchu preifatrwydd y teulu.