Gwrthdrawiad: Cyhoeddi enw dyn o'r Creunant

  • Cyhoeddwyd
Gregory Richard Ness Flowers
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Gregory Richard Ness Flowers mewn gwrthdrawiad ddydd Mercher

Mae gwraig wedi rhoi teyrnged i'w gŵr fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng beic modur a dau gar ddydd Mercher.

Bu farw Gregory Richard Ness Flowers, 40 o'r Creunant ger Castell Nedd, wrth yrru ei feic modur Suzuki glas ar yr A4109 rhwng Y Creunant ac Aberdulais.

Roedd Renault glas a Skoda gwyn yn rhan o'r ddamwain ychydig cyn 8.30yb ar Hydref 16.

Dywedodd ei wraig, Liwsi Callard Flowers: "Roedd fy ngŵr yn ddyn annwyl oedd bob tro yn gwenu ac yn boblogaidd gyda phawb ddaeth i'w nabod.

"Roedd yn adnabyddus yn ein pentref ni ac yn ei waith fel swyddog carchar ac yna swyddog prawf."

Dywedodd ei fab, Kyle: "Roedd fy nhad yn ddyn arbennig ac yn ddylanwad positif ar fy mywyd a bywydau fy chwiorydd.

"Fe oedd ein ffrind gorau a'n goleuni."