Trelái: Gwasanaeth arbennig i gofio
- Cyhoeddwyd

Mae gwasanaeth ddydd Sadwrn i gofio trychineb flwyddyn yn ôl pan laddwyd mam ifanc ac anafwyd 17.
Cafodd Karina Menzies ei tharo gan fan yn fwriadol a bu farw.
Tarodd y fan nifer o bobl eraill yn Nhrelái, Caerdydd, wrth i'r heddlu ddilyn y gyrrwr am hanner awr drwy strydoedd y ddinas.
Fe gafodd y gyrrwr Matthew Tvrdon, 32 oed, gyfnod amhenodol mewn uned seiciatryddol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ym mis Mehefin ar ôl cyfadde' dynladdiad am nad oedd yn ei iawn bwyll.
Brynhawn Sadwrn mae'r eglwys lle oedd angladd Karina yn ganolbwynt i'r gymuned.
'Symud ymlaen'
Y Parchedig Jan Gould, offeiriad Eglwys yr Atgyfodiad yn Nhrelái, sy'n arwain y gwasanaeth.
"Nid yw hyn yn rhywbeth y byddaf yn ei wneud eto ond rwy'n credu ei bod yn bwysig gwneud hyn ar ôl blwyddyn er mwyn i bobl symud ymlaen.
"Pan gynhaliwyd gwasanaeth yn yr eglwys o'r blaen roedd nifer o'r dioddefwyr yn dal yn yr ysbyty oherwydd eu hanafiadau.
"Rwyf wedi bod yn ymweld â nhw ac maen nhw'n dweud bod i digwyddiad fel hwn yn gymorth iddyn nhw symud ymlaen.
"Fy ngobaith i yw y bod y gwasanaeth yn rhoi cyfle i'r gymuned ddod at ei gilydd i dangos cefnogaeth i'r rhai y newidiwyd eu bywydau am byth gan y digwyddiad erchyll flwyddyn yn ôl.
"Mae'r gwasanaeth syml yn edrych at y dyfodol.
'Cannwyll'
"Bydd cyfle i bobl sydd am wneud hynny gynnau cannwyll - gweithred syml sy'n symbol o weddi ac undod gyda'r rhai oedd yn ddioddefwyr y llynedd.
"Mae llawer yn dal i gael triniaeth ysbyty am eu hanafiadau."
Mae'r gwasanaeth yn Eglwys yr Atgyfodiad Trelái yn dechrau am 3:00pm brynhawn Sadwrn, Hydref 19.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2012