Byrddau iechyd: 'yn groes i hawliau dynol'
- Cyhoeddwyd

Dyw rhai o fyrddau iechyd Cymru ddim yn dilyn canllawiau iechyd gorfodol i ddarparu pympiau inswlin i blant sydd â chlefyd siwgr 1.
Dyna mae ffigyrau ddaeth i law rhaglen Eye On Wales ar BBC Radio Wales yn ei ddangos.
Mae canllawiau Sefydliad Cenedlaethol Rhagoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn dweud y dylai'r pympiau gael eu darparu i glaf os yw'r teulu yn dymuno un a bod hynny yn briodol yn glinigol.
Mae'r pympiau yn golygu nad oes angen chwistrelliadau dyddiol o inswlin ac yn trawsnewid bywydau pobl â'r clefyd.
Ond mae'r rhaglen wedi darganfod bod 29 o gleifion ifanc yng Nghymru yn aros am therapi pwmp inswlin - yr hyn y mae Comisiynydd Plant Cymru yn dweud allai fod yn groes i'w hawliau dynol.
'Codi gwrychyn'
Mae Emily Agutter yn naw oed ac yn byw ym Mrynbuga yn Sir Fynwy. Mae'n gorfod profi lefelau siwgr yn ei gwaed a chwistrellu ei hun gydag inswlin sawl gwaith y dydd wedi iddi gael clywed dros flwyddyn yn ôl fod ganddi glefyd siwgr.
Ond mae ei bwrdd iechyd lleol wedi dweud wrth ei theulu nad yw'n cael pwmp inswlin eto ac mae Emily wedi bod yn disgwyl am 10 mis er gwaetha'r canllawiau.
Mae gan ei thad Neil Agutter bwmp inswlin hefyd.
Dywedodd yntau: "Mae'r peth yn codi 'ngwrychyn i'n llwyr - mae'r cyfan i lawr mewn du a gwyn.
"Rydym wedi gofyn ac mae yna drafferthion cyllido yn nhermau adnoddau i'r ysbyty.
"Mae'r meddygon a nyrsys sy'n trin Emily yn wych ac yn gwneud gwaith bendigedig ond maen nhw wedi dweud na fyddan nhw'n medru gwneud dim eto gan fod gormod o bobl yn disgwyl.
"Pan mae rhywun yn naw mlwydd oed, mae'n amser hir iawn i ddisgwyl i rywun mor ifanc.
"Dyw Emily ddim yn hoffi chwistrelliadau ond mae'n ddewr iawn. Mae'n rhaid iddi eu cael oherwydd mae'n rhaid iddi fyw.
"Dydw i ddim am ypsetio neb, dwi jyst am i Emily gael y gofal gorau a mwynhau ei phlentyndod. Mae ganddi lawer i ymdopi ag e.
"Dyw hyn ddim yn ddrud ofnadwy - dyw hwn ddim yn gyffur sy'n costio miloedd o bunnau. Mae ganddi'r hawl i'w gael ac fe ddylai ei gael, felly pam lai?"
Nid yw achos Emily yn unigryw. Mae tri o fyrddau iechyd â phlant ar restr aros am bwmp inswlin, sef Aneurin Bevan (15), Caerdydd a'r Fro (11) a Hywel Dda (3).
Hawliau dynol
Yn ôl Comisiynydd Plant Cymru Keith Towler fe allai hyn fod yn groes i hawliau dynol y plant.
"Pan ydych chi ar restr aros rwy'n credu y gallech chi fod o'r farn glir fod hynny'n groes i hawliau dynol y plentyn.
"Os yw'r plentyn am gael pwmp, y rhieni'n hapus i'r plentyn gael pwmp yna fe ddylid cael trefn ar faterion cyllido yn ddiweddarach os oes rhaid a rhoi'r pwmp i'r plentyn.
"Mae clefyd siwgr yn ddiagnosis sy'n newid bywyd plentyn ac mae angen cymaint o gefnogaeth ag sy'n bosib.
"Gadewch i ni ganolbwyntio ar y plentyn a sicrhau bod y plentyn yn derbyn y gwasanaeth."
Mewn datganiad dywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan nad oedden nhw'n barod i drafod achosion unigol ond eu bod "wedi ymrwymo i gynyddu mynediad at therapi pwmp inswlin" a'u bod wedi "cyflwyno cynlluniau i gynyddu'r nifer o blant ar y driniaeth o 33 i 90 dros y ddwy flynedd nesaf".
Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun ar gyfer triniaeth clefyd siwgr o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
'Pob ymdrech'
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn yr achos hwn: "Mae gen i ofn mai dyma fel mae'r byd yn ymarferol.
"Dyw e ddim bob tro'n digwydd bod rhywun yn cael asesiad am bwmp inswlin a'r pwmp wedyn ar gael yn syth a'r staff ar gael yn syth i roi hyfforddiant angenrheidiol i'r plentyn am sut i'w ddefnyddio.
"Fe fyddwn i'n disgwyl bod bwrdd iechyd lleol yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr amser sy'n rhaid disgwyl rhwng cael asesiad a chael y pwmp mor fyr ag sy'n bosib.
"Yn sicr, fe fyddwn i'n disgwyl i fyrddau iechyd ddilyn canllawiau gorfodol NICE, a'u bod yn dod o hyd i ffyrdd o fewn eu cyllidebau prin i wneud hynny.
"Rydym yn gwario £500 miliwn i flwyddyn yn y GIG yng Nghymru ar y clefyd yn gyffredinol.
"Mae'n swm mawr o arian ac rwy'n credu fod rhaid i fyrddau iechyd flaenoriaethu o fewn y swm yna a rhoi'r arian lle mae'r angen mwyaf."
'Haeddu'r gofal iawn'
Dywedodd cyfarwyddwr elusen Diabetes UK Cymru Dai Williams: "Mae diabetes math 1 yn ddifrifol iawn - rhaid ei adnabod yn syth neu fe fydd trafferthion mawr.
"Mae plentyn gyda math 1 mewn sefyllfa anodd o'r cychwyn - gwneud yn siŵr bod eu lefelau siwgr ddim yn rhy uchel nac yn rhy isel.
"Mae'n holl bwysig felly bod plentyn gyda math 1 yn cael y sylw maen nhw'n ei haeddu a chael y gofal iawn."
Eye On Wales, hanner dydd ddydd Sul, Hydref 20, BBC Radio Wales.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2013
- Cyhoeddwyd17 Mai 2013
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2013