Cerddwr 64 oed yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae cerddwr lleol 64 oed ag anafiadau difrifol yn yr ysbyty wedi i dacsi ei daro yn oriau mân y bore.
Roedd y ddamwain ychydig wedi hanner nos fore Sadwrn yn Hakin ger Aberdaugleddau.
Mae'n cael triniaeth yn Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.