Ynni: 'Y fargen orau i ddefnyddwyr'
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun yn cael ei lansio sy'n annog defnyddwyr i gael y fargen orau am eu hynni.
Nod Cyd Cymru yw denu cymaint o gefnogwyr fel y bydd biliau teuluoedd yn llai bob blwyddyn.
Y targed yw 10,000 o ddefnyddwyr yn ystod y cyfnod cynta'.
Os yw unigolion yn ymuno â'r cynllun, gall trefnwyr negydu â chyflenwyr nwy a thrydan a sicrhau'r fargen orau.
£700 y flwyddyn
Cafodd y cynllun ei lansio yng Nghernyw y llynedd ac yno llwyddodd 1,000 o gwsmeriaid i dalu ar gyfartaledd £130 yn llai bob blwyddyn.
Mae rhai wedi arbed £700 y flwyddyn.
Cwsmeriaid Cymru yw'r rhai sydd lleia' parod i drosglwyddo i gyflenwr arall.
Ond mae'r trefnwyr yn gobeithio y bydd y cynllun yn rhoi hyder iddyn nhw ac yn helpu taclo tlodi tanwydd.
Bydd angen i bobl gofrestru eu diddordeb arlein yn yrsotd y chwe wythnos nesaf.
Yna bydd cwmnïau ynni yn ceisio cynnig isafswm er mwyn ennill busnes grwpiau penodol o bobl.
Cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg sy' wedi achub y blaen ond mae cynghorau a chymdeithasau tai yn eu cefnogi.
9.2%
Dywedodd Ashley Govier, aelod cabinet Caerdydd gyda chyfrifoldeb am yr amgylchedd: "Po fwya' o bobol sy'n rhan o hyn, mwya' yw'r gobaith o daro bargen deg.
"Mae'n gyfle i osgoi cynnydd prisiau'r cwmnïoedd mwya'."
Yr wythnos ddiwetha' cyhoeddodd Nwy Prydain y byddai biliau'n codi o 9.2% o Dachwedd 23 ymlaen.
Fe fyddai codiad cyfartalog o £123 bob blwyddyn.
Dywedodd Rob Curtis, aelod cabinet Bro Morgannwg gyda chyfrifoldeb am yr amgylchedd: "Gan fod costau ynni'n codi, mae'n bwysig ein bod yn helpu teuluoedd i leihau eu biliau.
"Wrth weithredu ar y cyd gall teuluoedd arbed arian ..."
Straeon perthnasol
- 11 Hydref 2013
- 4 Hydref 2013
- 24 Medi 2013