Abertawe 4-0 Sunderland
- Cyhoeddwyd

Cafodd Abertawe dair gôl o fewn wyth munud
Mae'r Elyrch wedi trechu Sunderland o 4-0 ar y Liberty.
Yn yr hanner cynta' fe gafodd Abertawe ddigon o feddiant ond ni chafodd llawer ei greu.
Roedd hi'n ddisgôr erbyn yr egwyl ond yn stori wahanol yn yr ail hanner.
Tarodd Phil Bardsley y bêl i mewn i'w rwyd ei hunan ac agorodd y llifddorau.
Wedyn ergydiodd De Guzmán berl o gôl o 20 llath a sgoriodd Wilfried Bony o'r smotyn.
Mae Bony wedi sgorio tair gôl mewn saith munud yn yr ail hanner.
Roedd peniad Chico Flores yn goron ar y cyfan.
Cafodd Abertawe dair gôl o fewn wyth munud. Fe fyddai mwy wedi dod ond llwyddodd Westwood i arbed pan ergydiodd De Guzmán a Michu.
Dyw'r Elyrch ddim wedi ennill tri phwynt ers maeddu Newcastle 1-0 ar Fawrth 2.