Chelsea 4-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Yn ôl rhai, nid oedd y sgôr yn adlewyrchu perfformiad Caerdydd.
Mae Chelsea wedi chwalu gobeithion Caerdydd yn Stamford Bridge.
Sgoriodd Jordon Mutch yn gynnar i'r Cymry gan fanteisio ar gamgymeriad David Luiz.
Unionodd Eden Hazard y sgôr wedi camgymeriad y golwr Marshall.
Eto'o, ymosodwr y Cameroons, ergydiodd i Chelsea i gornel y rhwyd wedi i'w reolwr Jose Mourinho gael ei anfon i'r eisteddle am gega.
Oscar a Hazard seliodd y fuddugoliaeth ond, yn ôl rhai, nid oedd y sgôr yn adlewyrchu perfformiad Caerdydd.