Caerfaddon 26-10 Dreigiau
- Cyhoeddwyd

Chwaraeodd Tom Heathcote ran amlwg yn y fuddugoliaeth
Chwaraeodd Tom Heathcote ran amlwg wrth i Gaerfaddon drechu'r Dreigiau yng Nghwpan Her Amlin.
Roedd hi'n 10-10 ar yr egwyl wedi i Richard Lane sgorio cais i'r Saeson cyn i Toby Faletau daro'n ôl.
Roedd Heathcoate a Jason Tovey wedi cicio cic gosb yr un.
Ond ciciodd Heathcote, maswr yr Alban, dair cic yn yr ail hanner ac roedd ei drosiad yn llwyddiannus wedi cais Mat Gilbert.