Wrecsam 2-0 Woking
- Cyhoeddwyd

Mae'r Dreigiau wedi ennill tair yn olynol
Sgoriodd Dean Keates ei ail gôl mewn dwy gêm wrth i Wrecsam drechu Woking o 2-0.
Cafodd Woking nerth o rywle yn yr ail hanner a tharodd peniad Mike Cestor y trawst.
Ond yn y funud ola' seliodd Joe Clarke y fuddugoliaeth.
Tra bod y Dreigiau wedi ennill tair yn olynol mae Woking yn agos at waelod y tabl.