Scarlets 26-26 Racing Metro
- Cyhoeddwyd

Cael a chael oedd hi erbyn y diwedd, syndod a dweud y gwir o gofio bod Racing yn colli 20-10 ar yr egwyl.
Aeth y Ffrancod ar y blaen oherwydd cais Wenceslas Lauret a chicio Jonathan Sexton ond trodd y llanw oherwydd cic Rhys Priestland a cheisiadau Scott Williams a Rhodri Williams.
Hwn oedd ail gais trawiadol Scott Williams yn Ewrop o fewn chwe diwrnod.
Tra bod olwyr Llanelli'n llawn dyfeisgarwch, pac y Ffrancod oedd fwya' grymus.
Roedd y ddau dîm yn llawn hyder gan fod Llanelli wedi trechu Harlequins yn y rownd gynta' a Racing wedi maeddu Clermont Auvergne ym Mharis.
Cafodd Fabrice Estebanez ei hala i'r cwrt cosbi wedi ffrwgwd gyda Scott Williams.
Ciciodd Priestland gic gosb yn gynnar yn yr ail hanner cyn i Racing wrthymosod. Ciciodd Sexton gic gosb cyn i'r wythwr Matadigo hyrddio drosodd.
Trosodd Sexton a chicio cic gosb arall.
Yn yr amser ychwanegol gwibiodd Lauret dros y llinell ond ni chafodd y cais ei ganiatáu am fod Sexton wedi bwrw'r bêl ymlaen.
Rhyddhad i'r Cymry a siom i'r Ffrancod.