Northampton 27-16 Gweilch
- Cyhoeddwyd

Roedd pŵer blaenwyr Northampton yn amlwg
Y Seintiau'n trechu'r Gweilch yn Franklin's Gardens.
Mae hyn yn golygu bod gobeithion y Gweilch i bob pwrpas yng Nghwpan Heineken ar ben a dim ond ar ôl dwy gêm.
Y sgôr ar yr egwyl oedd 17-6.
Wedyn osgodd Biggar dacl cyn croesi'r llinell pan oedd dau amddiffynwr yn ceisio ei atal. Trosodd y maswr.
Ond sgoriodd Foden yn y gornel wedi sgarmes symudol a throsodd Myler er bod yr ongl yn anodd.
Roedd sail y fuddugoliaeth yn yr hanner cynta' a phŵer blaenwyr Northampton yn amlwg.