Gwario £350,000 ar do ysgol
- Cyhoeddwyd

Mae £350,000 yn cael ei wario ar do ysgol gafodd ei chodi chwe blynedd yn ôl.
Ac mae rhybudd y gallai'r problemau arwain at gau'r ysgol.
Dywedodd Cyngor Ceredigion nad oes modd defnyddio rhai stafelloedd dosbarth yn Ysgol Ffynnonbedr yn Llambed adeg glaw trwm.
Mae adroddiad wedi beirniadu sut y cafodd y to ei adeiladu.
Rhagorol
Dywedodd y contractwr Balfour Beatty eu bod yn anelu at wasanaeth rhagorol ac wedi bod yn cydweithio'n agos gyda'r cyngor.
Cowlin Construction gododd yr ysgol ac roedd yn arfer bod yn rhan o Balfour Beatty.
Mae adroddiad cabinet y cyngor wedi dweud bod dŵr yn gollwng ers dwy flynedd yn effeithio ar offer trydanol.
"Cytunwyd â Cowlin Construction fod angen darparu awyru ychwanegol yn y to am na ddilynwyd amodau'r cytundeb," meddai'r adroddiad.
'Yn ddiffygiol'
"Yn anffodus, nid oedd eu gwaith yn llwyddiannus."
Penderfynodd y Sefydliad Ymchwilio i Adeiladau fod "y deunydd gafodd ei ddefnyddio'n wreiddiol yn ddiffygiol."
Mae'r cyngor wedi gwahodd tendrau ar gyfer y gwaith newydd a bydd yr adnewyddu'n costio £350,000.
Er i'r cyngor ddechrau ceisio adennill costau mae Balfour Beatty wedi gwadu taw nhw oedd yn gyfrifol am y gwaith diffygiol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2007
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2006