Damwain: Pedwar yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae hofrennydd yr Awyrlu wedi mynd â phedwar i'r ysbyty wedi i'w cwch droi drosodd.
Roedd y ddamwain ger y lan rhwng Aberdyfi a Thywyn.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau Aberdaugleddau fod cyflwr y pedwar wedi ei asesu ar y lan a bod penderfyniad i'w cludo i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.