Gwobr arbennig i Siân
- Cyhoeddwyd

Yn 80 oed mae Siân Phillips wedi ennill gwobr yr actores ategol orau oherwydd ei rhan mewn sioe gerddorol.
Cyhoeddwyd hyn yn nigwyddiad Gwobrwyon Theatr y Deyrnas Gyfun.
Mae Siân wedi bod yn actio yn This Is My Family ddechreuodd yn theatr y Sheffield Crucible ym Mehefin. Hi yw'r fam-gu anghofus.
Hon oedd y sioe gerddorol orau, yn ôl y beirniaid, a'r cyfarwyddwr yw Daniel Evans o'r Rhondda.
Ganwyd Siân ar Fai 14 1934 a chafodd ei magu yn Rhydaman.
Athroniaeth
Cafodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Pontardawe.
Yn un o actorion mwyaf amlwg Cymru, dechreuodd hi berfformio yn ifanc iawn, ar y llwyfan, y teledu a'r radio i'r BBC.
Astudiodd hi Saesneg ac yna athroniaeth yn y coleg.
Gweithiodd fel cyflwynwraig ar y BBC yn y Gymraeg a'r Saesneg a darllen y newyddion.
Enillodd ysgoloriaeth i RADA ac yno dyfarnwyd Medal Aur Bancroft iddi hi ac fe ymddangosodd yn Llundain am y tro cyntaf mewn cynhyrchiad o Hedda Gabler.