Marwolaeth Casnewydd: Heddlu'n enwi'r fenyw fu farw
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaeth menyw 45 oed yng Nghasnewydd wedi cadarnhau mai Sandie Hardiman oedd ei henw.
Bu farw yn Ysbyty Brenhinol Gwent ddydd Gwener. Nid oedd canlyniadau archwiliad post mortem yn glir ac nid yw'r heddlu felly yn gwybod union achos y farwolaeth.
Bydd profion pellach yn cael eu gwneud gan gynnwys rhai am wenwyn a chyffuriau.
Mae'r heddlu yn trin y farwolaeth fel un amheus a chafodd dynes 23 oed a dyn 44 oed - y ddau o Gasnewydd - eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Mae'r ddau bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Cyn i Ms Hardiman gael ei chludo i'r ysbyty cafodd yr heddlu eu galw i'w fflat ar Sorrel Drive, Casnewydd, nos Iau.
Mae'r heddlu wedi apelio am wybodaeth am y digwyddiad, a dywedodd y Ditectif Uwch-Arolygydd Ian Roberts:
"Fel rhan o'r ymchwiliad i ganfod beth yn union ddigwyddodd i Sandie byddwn yn annog unrhyw un allai fod wedi bod mewn cysylltiad â hi yn y dyddiau a'r oriau cyn ei marwolaeth i ffonio'r heddlu ar 101.
"Gall pobl hefyd ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111."