Galw ar i Gaerdydd wisgo crysau glas oddi cartre'

  • Cyhoeddwyd
Crysau oddi cartre' a chartre'Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Penderfynodd y perchnogion newid lliw cit Caerdydd o las i goch ym mis Mehefin 2012

Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Caerdydd yn galw ar y Clwb i ganiatáu chwaraewyr i wisgo glas yn eu holl gemau oddi cartre'.

Ar ôl cysylltu gyda'r Uwchgynghrair, cafodd yr ymddiriedolaeth gadarnhad bod hawl i wisgo unrhyw un o'r crysau oddi cartre' cyn belled â'u bod ddim yn rhy debyg i rai'r tîm cartre'.

Mewn e-bost at aelod o'r ymddiriedolaeth, Keith Morgan, dywedodd yr Uwchgynghrair:

"Pan fo clwb yn chwarae gartre', mae'n rhaid gwisgo'r cit cartre' swyddogol ond gall y tîm oddi cartre' wisgo unrhyw un o'u crysau ar yr amod nad ydynt yn rhy debyg i rai'r tîm cartre'.

Roedd cefnogwyr wedi beirniadu penderfyniad perchnogion a chyfarwyddwyr y clwb i newid lliw'r cit o las i goch ym mis Mehefin y llynedd. Roedd y penderfyniad yn rhan o gytundeb ariannol.

Yn ôl y perchnogion, o Malaysia, byddai'r lliw coch yn ei gwneud yn haws i farchnata'r clwb yn Asia, gan fod y lliw hwnnw'n cael ei ystyried yn lwcus yno.

'Pryderus'

Yr wythnos ddiwetha' cyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth eu bod yn "parhau'n bryderus" am ddyfodol y clwb yn sgil dyfalu am ddyfodol rheolwr y tîm Malky Mackay wedi i bennaeth recriwtio'r clwb Iain Moody gael ei ddiswyddo.

Esboniodd Mr Morgan ei fod wedi cysylltu gyda'r Uwchgynghrair er mwyn "cadarnhau rheol M13 ac M22 o ran crysau ar gyfer gemau er mwyn gweld a oedd modd i'r clwb wisgo unrhyw un o'r tri chit sydd wedi'u cofrestru'n swyddogol.

"Mae'r Ymddiriedolaeth yn credu'n gryf y dylai'r clwb wisgo glas mewn gemau oddi cartre' yn yr Uwchgynghrair, os nad ydynt yn ymweld ag Everton, Chelsea neu West Bromwich Albion [sydd mewn glas]. Ac, wrth gwrs, mae nifer helaeth y cefnogwyr sy'n teithio i gemau'n gwisgo glas.

"O ystyried yr holl faterion oddi ar y cae dros yr wythnosau diwetha', rydym yn gobeithio y bydd rheolwyr y clwb, gan gynnwys Vincent Tan, yn edrych i weithio gyda'r cefnogwyr i sicrhau fod y crysau glas traddodiadol yn cael eu gwisgo gan yr Adar Gleision yn y rhan fwya' o gemau oddi cartre'.

"Mae'r Ymddiriedolaeth, fel y rhan fwya' o gefnogwyr, hefyd eisiau mynd 'nôl at y glas ar gyfer gemau cartre' yn y dyfodol."

Mae Newyddion Ar-lein wedi cysylltu gyda Chlwb Pêl-droed Caerdydd am eu hymateb i gais yr Ymddiriedolaeth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol